Fy Trivallis i

Diwrnod i’r brenin yng Nglyncoch

7 March 2025

Ddydd Gwener 28 Chwefror, daeth cymuned Glyncoch at ei gilydd gyda Trivallis i gynnal diwrnod arbennig ar y stad.

Ddydd Gwener 28 Chwefror, daeth cymuned Glyncoch at ei gilydd gyda Trivallis i gynnal diwrnod arbennig ar y stad.

Diwrnod wedi’i gynllunio gan y gymuned oedd hwn – roedd y bobl eu hunain wedi trefnu’r hyn oedden nhw am ei weld yn digwydd a mynd ati i roi eu cynlluniau ar waith.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, gyda phawb yn torchi llewys i sbriwsio mannau cymunedol a rhannu syniadau am weithgareddau yn y dyfodol a allai helpu i wneud Glyncoch yn lle hyd yn oed yn well i fyw.

Bu Tîm Ystadau Trivallis yn torri ardaloedd a oedd wedi tyfu’n wyllt, yn clirio gwastraff a chymhennu’r ardal. Fe wnaeth trigolion lleol, gan gynnwys teuluoedd a phlant o’r ysgol leol, eu rhan hefyd drwy gasglu sbwriel a dysgu mwy am eu hamgylchedd lleol.

Trivallis Housing Landlord Wales A person in protective clothing and earmuffs operates a trimmer in a rural residential area. Houses and hills with a light dusting of frost are in the background. The person looks toward the camera.

 

Wrth i bawb weithio’n galed, bu’r gwirfoddolwyr lleol yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch yn brysur yn paratoi lluniaeth a bwyd yn barod i bawb gael seibiant haeddiannol. Roedd y Ganolfan Gymunedol yn ganolbwynt gwych ar gyfer y diwrnod, lle gallai pawb gysylltu â chymdogion, timau cymorth a dod i adnabod ei gilydd.

Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl hefyd, gyda gweithgareddau hwyliog i gymryd rhan ynddyn nhw ac roedd hi’n wych gweld plant Glyncoch yn dawnsio a chwarae gyda’i gilydd, yn ogystal â herio Timau Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn gêm bêl-droed.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of six people, including two police officers in uniform and four others in casual winter clothing, stand in front of a vehicle. They are outdoors on a paved area. The vehicle has the text "Trivallis" on it.

 

Bu tîm cymunedol Trivallis yn cnocio ar ddrysau a manteisio ar y cyfle i ymwneud â’r trigolion lleol i ddod i’w hadnabod a chlywed beth maen nhw’n ei garu fwyaf am fyw yng Nglyncoch. Datgelodd y sgyrsiau beth oedd wir yn bwysig iawn i denantiaid, a’r hyn roedden nhw’n teimlo’n gryf amdano i wneud gwahaniaeth i’w cymuned.

Roedd hi’n wych gweld pobl o bob oed yn dod ynghyd i ofalu am eu cymuned. Roedd yn ddiwrnod yn dangos faint y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd.

Dim ond dechrau’r gwahaniaeth sy’n cael ei wneud yng Nglyncoch yw hyn. Bydd mwy o gyfleoedd i gymuned Glyncoch ddod at ei gilydd a pharhau i wneud eu cymdogaeth yn lle gwych i fyw.

Trivallis Housing Landlord Wales A child in a yellow safety vest holds a litter picker and gives a peace sign outdoors. Other people in similar vests are in the background. It appears to be a group cleanup event in a grassy area.

Os ydych chi’n byw yng Nglyncoch ac eisiau cymryd rhan mewn gwneud gwahaniaeth, cysylltwch ag involvement@trivallis.co.uk

Cofiwch fod eich Swyddog Tai Cymunedol newydd, Holly Thomas, yn yr ardal yn aml. Os ydych chi am siarad â hi cysylltwch â 03000 030 888 neu e-bostiwch taffnt@trivallis.co.uk