Fy Trivallis i

Ffarwelio ag Emma

13 December 2024

Ar ôl pedair blynedd hynod lwyddiannus fel Cadeirydd y Panel Gweithredu Tenantiaid, rydyn ni am ddiolch o galon a ffarwelio ag Emma Nicholas, a fydd yn camu i lawr o'i rôl ddiwedd y flwyddyn.

Ar ôl pedair blynedd hynod lwyddiannus fel Cadeirydd y Panel Gweithredu Tenantiaid, rydyn ni am ddiolch o galon a ffarwelio ag Emma Nicholas, a fydd yn camu i lawr o’i rôl ddiwedd y flwyddyn. Mae ei harweinyddiaeth a’i hangerdd dros wella cyfranogiad tenantiaid wedi cael effaith barhaol, ac mae’n gadael gwaddol cryf ar gyfer y dyfodol.

Gydol ei chyfnod fel Cadeirydd, mae Emma wedi chwarae rhan hanfodol gan drawsnewid sut mae tenantiaid yn cyfrannu at lunio gwasanaethau. Mae hi wedi helpu i greu strwythurau a phrosesau cadarn i sicrhau bod lleisiau tenantiaid nid yn unig yn cael eu clywed ond bod gweithredu’n digwydd yn sgil hynny. Mae’r gwelliannau hyn wedi ein galluogi i fonitro mewnbwn tenantiaid yn fwy effeithiol a gwneud newidiadau ystyrlon sy’n adlewyrchu eu hanghenion a’u blaenoriaethau.

Mae ymroddiad Emma i’w rôl ac i denantiaid wedi bod yn rhyfeddol. Mae hi wedi bod yn eiriolwr di-baid dros gyfranogiad tenantiaid, gan sicrhau eu bod yn flaenllaw ac yn ganolog wrth wneud penderfyniadau. O dan ei harweinyddiaeth, mae’r Panel Gweithredu Tenantiaid wedi mynd o nerth i nerth, gyda thenantiaid yn cael mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen i ddylanwadu ar y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Gan fyfyrio ar ei chyfnod fel Cadeirydd, dywedodd Emma: “Mae bod yn denant yn ystod cyfnod mor heriol wedi bod yn bwysig iawn. Deuthum yn Gadeirydd yn union fel y dechreuodd COVID, ac fe wnes i sicrhau bod tenantiaid bob amser yn cael eu rhoi yn gyntaf yn ystod yr amseroedd anodd hynny. Ers 2023, rydw i wedi gweithio’n agos gyda’r Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth newydd i helpu i sbarduno newidiadau cadarnhaol. Rwy’n falch fy mod wedi gallu codi llais dros denantiaid a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed pryd bynnag y gwneir penderfyniadau mawr.”

Mae ei geiriau’n cyfleu ysbryd ei harweinyddiaeth. Wrth gamu i’r rôl yn ystod ansicrwydd y pandemig, sicrhaodd fod tenantiaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth trwy gyfnod anodd. Mae ei gwaith gyda’r Bwrdd a’r Tîm Arweinyddiaeth newydd ers 2023 wedi bod yn allweddol wrth yrru’r newidiadau cadarnhaol niferus rydyn ni wedi’u gweld dros y blynyddoedd diwethaf.

Diolchodd ein Prif Weithredwr, Duncan Forbes, iddi gan ddweud: “Hoffwn ddiolch i Emma am ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth anhygoel yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ei hymrwymiad i hyrwyddo tenantiaid a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio’r newidiadau cadarnhaol rydyn ni wedi’u cyflawni gyda’n gilydd. Rydyn ni’n ddiolchgar am bopeth mae hi wedi’i wneud i roi tenantiaid wrth galon Trivallis.”

Er bod Emma yn rhoi’r gorau iddi fel Cadeirydd, nid yw ei hymrwymiad i denantiaid yn dod i ben. Bydd hi’n symud ymlaen i rôl newydd gyffrous fel Arweinydd Llais Tenantiaid yn y Gynghrair Sylfaenol, menter rydyn ni’n falch o’i chefnogi. Yn y swydd hon, bydd yn helpu i sefydlu llais cenedlaethol, annibynnol i denantiaid, gan gynrychioli eu buddiannau ar lefel y Llywodraeth.

Er y bydd ei rôl newydd yn dod â heriau newydd, bydd Emma yn parhau i fod yn denant i ni. Mae hi’n bwriadu parhau i gymryd rhan mewn arolygon, darparu adborth anffurfiol, a helpu i recriwtio tenantiaid newydd i gyfranogi. Fodd bynnag, bydd ganddi amserlen ychydig yn ysgafnach heb gymaint o gyfarfodydd i’w mynychu!

Wrth edrych ymlaen, bydd y gwaith o chwilio am Gadeirydd newydd ac Is-gadeirydd y Panel Gweithredu Tenantiaid yn dechrau ym mis Rhagfyr. Mae’n amser cyffrous i’r Panel Gweithredu Tenantiaid wrth i ni baratoi i ddechrau pennod newydd, gan adeiladu ar y sylfeini y mae Emma wedi’u gosod.

Rydyn ni mor ddiolchgar am bopeth y mae Emma wedi’i wneud yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd. Mae ei gwaith wedi gwella’r ffordd y mae tenantiaid yn ymgysylltu â ni ac wedi sicrhau bod eu lleisiau’n parhau i fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Er y byddwn yn ei cholli fel Cadeirydd, bydd yn gyffrous gweld yr effaith enfawr y bydd yn ei chael yn ei rôl newydd ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd yn parhau i fod yn rhan o’n cymuned denantiaid.

Emma, diolch i ti am dy angerdd, dy ddyfalbarhad, a dy ymrwymiad diwyro i denantiaid. Rwyt ti’n  gadael gwaddol a fydd yn parhau i’n hysbrydoli i’r dyfodol.