Fy Trivallis i

Oeddech chi'n gwybod bod eich budd-daliadau yn newid?

Os byddwch chi’n derbyn llythyr, dan y teitl ‘Hysbysiad Mudo’ neu ‘Migration Notice’, mae hyn yn golygu y bydd angen i chi wneud cais Credyd Cynhwysol (CC) gan fod y ffordd rydych chi’n hawlio eich budd-daliadau ar hyn o bryd yn dod i ben.

Taliad misol sengl yw’r Credyd Cynhwysol a fydd yn cymryd lle eich budd-daliadau a’ch credydau treth presennol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn aros nes eich bod yn derbyn y llythyr cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a’ch bod yn ei gwblhau cyn y dyddiad cau. Ni fyddwch yn cael eich symud drosodd yn awtomatig.

Bydd modd i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein, neu dan rai amgylchiadau bydd modd gwneud hynny dros y ffôn. Bydd yr holl wybodaeth ar hawlio yn eich hysbysiad mudo pan fyddwch yn ei dderbyn.

Os byddwch chi’n cwblhau hawliad Credyd Cynhwysol cyn derbyn y llythyr, mae’n bosib y byddwch chi’n colli arian. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler yr Amddiffyniad pontio os ydych chi’n derbyn llythyr Hysbysiad Mudo – GOV.UK (www.gov.uk)

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi darparu’r wybodaeth isod ynghylch pryd y gallwch ddisgwyl eich llythyr. Amcangyfrif yn unig yw hwn, felly peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi derbyn eich llythyr erbyn y dyddiad a nodwyd:

Trivallis Housing Landlord Wales A table showing current benefits and the corresponding dates when individuals may receive their letters. Categories include Housing Benefit, Income Support, ESA, Pension age tax credits, and Jobseekers Allowance with dates ranging from April to September 2024.

Cymorth pellach

Mae rhagor o gymorth ar symud i’r Credyd Cynhwysol ar gael ar GOV.UK.

Gallwch hefyd gael help drwy ffonio llinell gymorth am ddim Hysbysiad Mudo Credyd Cynhwysol ar 0800 169 0328.

Os ydych chi wedi derbyn eich hysbysiad mudo a bod y dyddiad cau i hawlio Credyd Cynhwysol yn agosáu, a bod angen rhagor o amser arnoch i wneud eich cais, gallwch ffonio’r llinell gymorth a gofyn am estyniad.

Siaradwch â'n tîm Cynghori Ariannol

Os oes angen help arnoch i symud i’r Credyd Cynhwysol, cysylltwch unwaith y byddwch wedi derbyn eich hysbysiad mudo.

Ydych chi'n cael yr holl fudd-daliadau y gallech eu hawlio? Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio'r hyn y mae gennych chi hawl iddo. Mynnwch air â swyddog cyngor ariannol

Trivallis Housing Landlord Wales A smiling man with facial hair sits at a desk in a busy office environment, wearing a gray t-shirt and a lanyard. he seems relaxed, looking directly at the camera with office colleagues blurred in the background. He is a money advice officer who can help with money.