Fy Trivallis i

Rydym ni’n ymrwymo i fodloni Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Rydym ni am hyrwyddo’r Gymraeg o fewn ein sefydliad a gweithio gyda chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Rydym ni am wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn iaith fyw a bywiog yn ein sefydliad.

Credwn y gall pobl fynegi eu hunain a dweud beth sydd ei angen arnynt yn well yn eu dewis iaith. Cefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yw’r peth cywir i’w wneud. Gallai peidio â gadael i rywun ddefnyddio’r Gymraeg pan maen nhw am wneud, wneud pethau’n fwy anodd iddyn nhw.

Byddwn yn ceisio defnyddio’r Gymraeg yn y meysydd canlynol:

  • Cynllunio a darparu gwasanaethau
  • Hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg
  • Recriwtio a hyfforddi staff
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Gwasanaethau trydydd parti