Fy Trivallis i

Croeso i’n Rhaglen Prentisiaethau! Yn 2024, mae gennym saith prentisiaeth:

  • Plymwr/Peiriannydd Nwy x 2
  • Trydanwr
  • Saer coed/Peiriannydd Tân Goddefol
  • Plastrwr
  • Syrfëwr
  • Gweinyddwr Busnes

Mae ein rhaglen ar agor i bawb sydd dros 16 oed ac sy’n byw yn un o’n tai. Nid oes angen profiad, dim ond agwedd gadarnhaol. Mae’r hyfforddiant yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol, yn y gweithle ac yn y coleg.

Mae’r hyfforddiant yn digwydd yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw neu yng Ngholeg Ystrad Mynach. Mae prentisiaid yn gweithio ar draws Rhondda Cynon Taf a Bae Caerdydd, a byddant wedi’u lleoli ym Mhontypridd, yng Nghwmbach neu ym Mhorth. Mae prentisiaethau’n para rhwng dwy a phedair blynedd, gan arwain at gymhwyster Lefel 3.

Disgwyliwch ddysgu sgiliau technegol ynghyd â sgiliau cyflogaeth hanfodol. Cewch gefnogaeth gan gynghorydd hyfforddiant yn y coleg a rheolwr Trivallis. Rydym ni’n darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) ac offer, a chewch gyflog misol.

Mae’r brentisiaeth Gweinyddwr Busnes yn para blwyddyn ac mae wedi’i leoli yn y gwaith yn unig. Ni fydd angen i chi fynd i’r coleg i gwblhau’r brentisiaeth hon.

Pam mae’r prentisiaethau ar agor i denantiaid Trivallis yn unig?

Mae pobl sy’n rhentu eu cartref oddi wrth y cyngor neu gymdeithas tai ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith a theirgwaith yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn economaidd na rhentwyr preifat neu berchnogion tai. Fel cyflogwr mawr yn y rhanbarth a darparwr tai cymdeithasol, ystyriwn fod y prentisiaethau hyn yn gyfle i ni gau’r bwlch anghydraddoldeb trwy eu cynnig i’n tenantiaid yn unig.

Disgwyliwn y byddwn yn debygol o lenwi’r swyddi gwag hyn o blith ein tenantiaid, ond os na wnawn, byddem yn eu hysbysebu i bobl eraill wneud cais amdanynt.

I’r rhai nad ydynt yn denantiaid ac i’r rhai nad ydynt yn llwyddo yn eu cais, byddwn hefyd yn rhannu cyfleoedd eraill sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys cyfeirio at fentrau cyflogadwyedd eraill gan awdurdodau lleol a’r sector preifat, gan gynnwys prentisiaethau.

Sut i wneud cais

Ymestyn y dyddiad cau tan ganol nos, dydd Llun 27 Mai 2024.

I gael mwy o wybodaeth am ofynion mynediad a’r broses ymgeisio, llwythwch y daflen isod i lawr. Os oes gennych gwestiynau, ffoniwch ni ar 07554 387793 yn ystod oriau swyddfa.

Pob lwc gyda’ch cais a gobeithio y gwelwn ni chi cyn hir!

Diddordeb mewn ymuno â’n rhaglen prentisiaethau?

Three smiling men in black work shirts and trousers standing together outdoors.