Fy Trivallis i

Troi gwastraff yn gelf ym mhencadlys Trivallis ym Mhontypridd

15 September 2025

Yr Wythnos Ailgylchu hon, rydyn ni’n bwrw goleuni ar botensial creadigol gwastraff bob dydd. Bydd y cyhoedd ac ymwelwyr â’n…

Yr Wythnos Ailgylchu hon, rydyn ni’n bwrw goleuni ar botensial creadigol gwastraff bob dydd.

Bydd y cyhoedd ac ymwelwyr â’n prif swyddfa ym Mhontypridd yn sylwi ar arddangosfa ffenest newydd drawiadol wedi’i gwneud yn llwyr mas o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Byddwn yn defnyddio caniau metel, cwpanau coffi untro, pecynnau creision, popeth! Mae creu’r darn celf hwn yn dangos sut allwn ni drawsnewid yr eitemau rydyn ni’n eu taflu fel arfer, a chreu rhywbeth beiddgar, gwerth chweil.

Mae’r gwaith celf yn drawiadol ac yn wahanol i’r hyn y byddech yn ei ddychmygu fel arfer. Y nod yw sbarduno sgyrsiau am gynaliadwyedd a sut allwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth leihau gwastraff.

Fel rhan o’r prosiect, rydyn ni hefyd yn gwahodd tenantiaid i ymuno â gweithdy a fydd yn bwrw golwg ar ffyrdd ymarferol o ailddefnyddio deunyddiau. Bydd y sesiwn yn gyfle i rannu syniadau a dod o hyd i newidiadau bach a all gwneud gwahaniaeth mawr yn ein bywydau bob dydd.

Trwy gyfuno creadigrwydd ag ailgylchu, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli pobl i edrych ar wastraff mewn ffordd newydd. Yn hytrach nag edrych arno fel rhywbeth i’w daflu, gall ddod yn adnodd y gallwn ei ailddychmygu a’i ailddefnyddio.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y gweithdy, e-bostiwch: involvemement@trivallis.co.uk