Fy Trivallis i

Trivallis yn ennill dau dlws yng Ngwobrau Tai Cymru

13 December 2024

Roedden ni’n falch dros ben o gasglu dau dlws ar gyfer gwaith rheng flaen pwysig gyda rhai o'n tenantiaid mwyaf agored i niwed.

Roedd hi’n noson ddisglair yng Ngwobrau Tai Cymru 2024 ddydd Iau 12 Rhagfyr, wrth i 300 o weithwyr tai proffesiynol ddod at ei gilydd i ddathlu rhai o sêr gorau a disgleiria’r sector.

Roedden ni’n falch dros ben o gasglu dau dlws ar gyfer gwaith rheng flaen pwysig gyda rhai o’n tenantiaid mwyaf agored i niwed.

Categori: Rhagoriaeth ym maes arloesi tai

Enillydd: Achrediad DAHA ar gyfer achosion o gam-drin domestig yn Trivallis

Categori: Rhagoriaeth ym maes iechyd a lles

Enillydd: Prosiect cefnogi celcio MAGPIE

Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n rhan o’r ddau brosiect hyn, yn enwedig Lianne Bulford, Jess Barrow, Clare Jones a Richard Thomas yn y tîm Diogelwch Cymunedol; Claire Overd, Sarah Roderick a’r tîm STEPS sy’n cyflwyno MAGPIE.

Fel y dywedodd arweinydd y noson wrth gyflwyno un o’n tlysau mae hwn yn waith cwbl hanfodol a dylai pawb yn y sector fod yn edrych yn fanwl ar ddull Trivallis o fynd o’i chwmpas hi!

Roedden ni yn y rownd derfynol mewn pedwar categori arall:

  • Gweithio mewn Partneriaeth: Menter Partneriaeth Trawsnewidiol yn Stad Cae Faerdre
  • Rhagoriaeth mewn Craffu ar Denantiaid: Cynnwys Tenantiaid
  • Tîm Tai’r Flwyddyn: Fforwm Iechyd a Diogelwch
  • Ymgyrch y Flwyddyn: Braf a Chlyd

Er ei bod hi’n hyfryd dathlu ein llwyddiannau gyda digwyddiad mawreddog yn y brifddinas, mae diben difrifol i’r gwobrau hefyd. Maen nhw’n tynnu sylw at arferion rhagorol neu arloesol, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cartrefi a’r gwasanaethau gaiff tenantiaid, preswylwyr a chymunedau. Mae pawb yn Trivallis yn teimlo’n falch iawn o gael ein cydnabod gan ein cymheiriaid am y gwaith sy’n gwneud byd o wahaniaeth i fywydau ein tenantiaid a’n cymunedau.