Fy Trivallis i

Tidy People: Wendy Allsop – “Dyw pawb ddim yn gallu camu ymlaen”

18 June 2025

Yr wythnos hon, rydyn ni'n rhannu stori Wendy Allsop, sy'n byw yn Nhonypandy. Mae ei thaith trwy galedi personol wedi ei thrawsnewid i rywun sydd â llais pwerus dros ymwybyddiaeth o hygyrchedd yn Rhondda Cynon Taf.

Croeso i Tidy People, ein cyfres sy’n rhoi llwyfan i bobl gyffredin, y bobl hynny sy’n gwneud newidiadau eithriadol yn ein cymunedau yn dawel bach.

Yr wythnos hon, rydyn ni’n rhannu stori Wendy Allsop, sy’n byw yn Nhonypandy. Mae ei thaith trwy galedi personol wedi ei thrawsnewid i rywun sydd â llais pwerus dros ymwybyddiaeth o hygyrchedd yn Rhondda Cynon Taf.

O her bersonol i eiriolaeth gyhoeddus

Roedd Wendy wedi bod yn byw bywyd arferol – yn magu ei theulu, gweithio, a mynd a dod fel arfer bob dydd. Ond ddwy flynedd yn ôl, newidiodd popeth pan gafodd ddiagnosis o gyflwr a effeithiodd yn ddifrifol ar ei symudedd.

“Tan iddo ddigwydd i mi, doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor anhygyrch yw’r byd mewn gwirionedd,” eglura Wendy.

Yn sydyn, roedd hi’n gorfod teithio o gwmpas ei chymdogaeth a chanol y dref ar sgwter symudedd – a dyna pryd y sylweddolodd nad yw llawer o’r amgylchedd adeiledig yn addas i bawb.

Palmentydd wedi’u blocio, siopau anhygyrch, a diffyg dealltwriaeth

Mae Wendy yn disgrifio sut y gall rhywbeth mor gyffredin â pharcio greu rhwystrau difrifol i bobl â phroblemau symudedd. Gall ceir sydd wedi’u parcio’n rhannol ar balmentydd neu ar strydoedd heb gyrbiau is adael pobl fel hi yn sownd.

“Os nad oes palmant is, allwch chi ddim mynd oddi ar y palmant. Mae’n rhaid i chi droi rownd, mynd yn ôl, a dod o hyd i ffordd arall – os oes un ar gael.”

Mae’n sôn am siopau ym Mhontypridd gyda mynedfeydd sy’n rhy gul ar gyfer cadair olwyn, neu y tu mewn i siopau llawn dop fel ei bod yn amhosib llywio sgwter ynddyn nhw. Mae gan un siop hyd yn oed gloch cymorth – sydd wedi’i osod ar uchder na all neb sy’n eistedd mewn sgwter neu gadair olwyn ei gyrraedd.

“Maen nhw wedi rhoi cynnig arni, ond dyw e wir ddim yn hygyrch. A dyna’r broblem – mae llawer o lefydd yn gwneud yr ymdrech, ond heb ymgynghori â phobl sydd â phrofiad bywyd.”

Y Cartref sydd ddim bob amser yn hygyrch

Hyd yn oed y tu allan i’w chartref ei hun, mae Wendy yn wynebu heriau. Heb ofod parcio anabl wedi’i neilltuo, yn aml dyw hi ddim yn gallu parcio gerllaw.

“Os ydw i’n gadael y tŷ ar ôl 5pm, efallai na fydd modd i fi fynd yn ôl i mewn. Dwi wedi gorfod ffonio fy mab i symud y car i mi. Rydych chi’n aros i mewn yn y pen draw. Rydych chi’n rhoi’r gorau i fynd allan. Rydych chi’n colli eich bywyd cymdeithasol.”

Mae hi wedi gosod arwydd cwrtais yn ei ffenest yn gofyn i eraill beidio â pharcio o flaen ei thŷ – ond heb gefnogaeth gyfreithiol, mae’n cael ei anwybyddu’n aml iawn.

Nid malais yw e – ond diffyg ymwybyddiaeth

Mae Wendy yn barod iawn i ddweud nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno achosi niwed. Yn syml, dydyn nhw ddim yn sylweddoli effaith eu gweithredoedd.

“Maen nhw ar frys. Yn ddifeddwl. Ond gall bod yn ddifeddwl olygu bod eraill yn cael eu caethiwo yn eu cartrefi.”

Dyna pam mae Wendy yn credu bod ymwybyddiaeth yn allweddol – ac mae hi’n galw am addysg ymwybyddiaeth o anabledd mewn ysgolion, yn union fel cymorth cyntaf neu iaith arwyddion.

Pe bai gan Wendy boster ymgyrchu…

Pan ofynnwyd iddi pa neges y byddai’n ei rhoi ar boster ymgyrchu, roedd ateb Wendy ar flaenau ei bysedd:

“Dyw pawb ddim yn gallu camu ymlaen”

Mae’n slogan syml ond pwerus – ac yn atgoffa  pobl nad yw pawb yn gallu “camu ymlaen” tuag at balmant, drws, neu sgwrs. Mae’n gwahodd y gweddill ohonom i “gamu ymlaen” mewn ffordd wahanol hefyd: trwy fod yn fwy ystyriol, yn fwy cynhwysol, ac yn fwy ymwybodol.

Pam mae Wendy yn codi ei llais

Mae eiriolaeth Wendy yn cael ei hysgogi gan rywbeth personol iawn – ei merch.

“Mae gen i blentyn 12 oed. Mae angen i mi fod yn fam iddi hi. Mae hynny’n golygu mynd i fan hyn a fan draw a throi lan iddi hi – a helpu i siapio byd lle gall hi weld fod pawb yn bwysig.”

O bresenoldeb y tu allan i ysgolion yn ymgyrchu dros groesfannau mwy diogel, i herio rhagdybiaethau am hygyrchedd, mae Wendy yn benderfynol o sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed.

“Oni bai eich bod chi’n gweiddi’n ddigon uchel, does yna neb yn gwrando. Felly dwi’n gweiddi – dros bawb sy’n methu gwneud hynny.”

Beth allwn ni ei ddysgu gan Wendy

Mae Wendy yn ein hatgoffa nad yw hygyrchedd yn ymwneud â dim ond cyfleustra – mae’n ymwneud ag urddas. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn i’w cymunedau.

“Os dwi’n cymryd eich lle parcio chi, gallwch ddod o hyd i un arall. Os ydych chi’n cymryd fy un i, dwi’n mynd adre.”

Mae ei neges yn glir: byddwch yn garedig, byddwch yn ymwybodol, a chamwch ymlaen – ar ran y rhai sy’n methu gwneud hynny.

Mae modd clywed stori lawn Wendy ar Tidy People – ar gael nawr fel podlediad a phodlediad fideo

Ydych chi’n nabod person ‘tidy’ sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned?

Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. Cysylltwch â ni a’n helpu i ddathlu pencampwyr go iawn Rhondda Cynon Taf.