Fy Trivallis i

Tidy People: Martin Barron, Dod â’n hysbryd cymunedol yn ôl

22 May 2025

Dewch i gwrdd â Martin o Donyrefail – dyn sy'n byw ac yn anadlu ysbryd cymunedol. Yn y bennod ddiweddaraf o Tidy People, cyfres podlediad a phodlediad fideo sy'n dathlu pobl gyffredin yn gwneud gwahaniaeth anhygoel, mae Martin yn rhannu ei angerdd dros ailadeiladu calon ei dref enedigol.

“Dwi ddim yn gallu eistedd yn llonydd. Dwi’n gorfod bod yn actif, gorfod bod yn brysur… Dwi’n gweld rhywbeth, a dwi’n meddwl: mi alla i helpu yno.”

Dewch i gwrdd â Martin o Donyrefail – dyn sy’n byw ac yn anadlu ysbryd cymunedol. Yn y bennod ddiweddaraf o Tidy People, cyfres podlediad a phodlediad fideo sy’n dathlu pobl gyffredin yn gwneud gwahaniaeth anhygoel, mae Martin yn rhannu ei angerdd dros ailadeiladu calon ei dref enedigol.

Ar ôl dychwelyd i Tonyrefail 25 mlynedd yn ôl wedi ychydig flynyddoedd i ffwrdd, penderfynodd Martin fynd ati i roi yn ôl i’r gymdeithas. O hyfforddi’r tîm pêl-droed merched lleol i gefnogi cyn-filwyr trwy gynnal brecwast misol, mae ei ddyddiau’n llawn gweithredoedd ystyrlon. Mae hyd yn oed yn helpu i adfywio cangen Tonyrefail o’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

“Daeth pedwar o bobl i’r brecwast cyn-filwyr cyntaf, ac erbyn hyn mae tua deg yn dod. Mae yna deimlad da y gallwn ddod â’r cyfan yn ôl.”

Mae Martin yn myfyrio ar sut roedd Tonyrefail yn arfer ffynnu gyda chymuned gref, agos – lle roedd pawb yn adnabod pawb, lle roedd drysau bob amser ar agor, a lle roedd siopau lleol yn llawn bywyd. Er bod pethau wedi newid, mae’n benderfynol o adfer yr ysbryd hwnnw.

“Dydw i ddim yn golygu bod angen i bobl adael eu drysau ar agor eto – dwi’n golygu’r pethau syml. Dweud bore da. Bod yno i’w gilydd.”

Mae’n siarad yn onest am effaith ffordd osgoi 1986, a ddargyfeiriodd pobl i ffwrdd o’r dref ac a gyfrannodd at ddirywiad busnesau lleol. Ond nawr, diolch i waith y Siambr Fasnach leol a phobl fel Martin, mae yna obaith. Mae’r stryd fawr yn dod yn ôl yn fyw, gyda dim ond un siop bellach yn wag a hyd yn oed Banc Lloyds, sy’n wag ers amser maith, yn mynd i gael ei weddnewid a chael ymdeimlad newydd o bwrpas.

Mae Martin yn credu bod cymuned ffyniannus yn dechrau gyda chysylltiad – p’un a yw hynny’n golygu sgwrsio yn y Co-op neu greu mannau diogel fel caffi ieuenctid a pharc sglefrio ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’n dyheu am ddychwelyd i garnifalau cymunedol, clybiau pêl-droed, a thraddodiadau a rennir.

“Mae yna lawer o bobl sy’n ymdrechu’n galed, hyd yn oed os nad oes neb yn sylwi. Os ydyn ni’n rhoi ei hunaniaeth yn ôl i Ton – efallai nid y pyllau glo, ond yr agosatrwydd a’r ymdeimlad o berthyn – yna rydyn ni ar y trywydd iawn.”

Mae modd clywed stori lawn Martin ar Tidy People – ar gael nawr fel podlediad a phodlediad fideo – ac fe gewch eich ysbrydoli gan yr arwyr lleol sy’n newid y byd yn dawel fach, un weithred dda ar y tro.