Fy Trivallis i

Tidy People: Emma Alcock a Phŵer Hunaneiriolaeth

8 August 2025

Yn y bennod hon o Tidy People, rydyn ni’n rhoi sylw i Emma Alcock, eiriolwr angerddol dros gynhwysiant a grymuso yn Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, sefydliad hunaneiriolaeth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Yn y bennod hon o Tidy People, rydyn ni’n rhoi sylw i Emma Alcock, eiriolwr angerddol dros gynhwysiant a grymuso yn Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, sefydliad hunaneiriolaeth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Gyda thros 20 mlynedd o brofiad, mae Emma yn gwneud ei gorau glas i gefnogi pobl i ddod o hyd i’w llais, herio anghydraddoldeb a byw bywyd ar eu telerau eu hunain.

Dull Pobl yn Gyntaf

Nid dim ond sefydliad yw Pobl yn Gyntaf Cwm Taf – mae’n fudiad sy’n cael ei arwain gan ac ar gyfer ei aelodau. Yn ei hanfod, mae’n credu mewn rhoi llais, dewis a rheolaeth i bobl ag anableddau dysgu ym mhob rhan o fywyd. O fynychu cyfarfodydd i gael gafael ar wybodaeth neu wneud penderfyniadau annibynnol, mae Emma a’i thîm yno i sicrhau bod aelodau’n teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu a’u cefnogi.

“Rwy’n credu bod rhaid i bobl ymladd dros eu hawliau eto nawr,” meddai Emma, gan fyfyrio ar sut mae’r pandemig wedi ailgyflwyno heriau yr oedd cenedlaethau hŷn eisoes wedi brwydro i’w goresgyn. Mae ei gwaith yn cael ei sbarduno gan ymrwymiad i gydraddoldeb – sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd ac, yn bwysicach fyth, yr un parch.

Côr Codi Llais

Un o’r ffyrdd amlwg mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn grymuso ei aelodau yw drwy gôr Codi Llais. Mae canu gyda’n gilydd yn brofiad llawen ac yn ffurf bwerus o hunanfynegiant ac eiriolaeth. Perfformiodd y côr yn yr Eisteddfod y llynedd, ac maen nhw wrthi’n paratoi ar gyfer perfformiad arall yn Wrecsam yr haf hwn.

Mae Emma yn ei ddisgrifio fel profiad balch, emosiynol. “Mae’n ffurf greadigol o hunaneiriolaeth,” meddai. Trwy gerddoriaeth, mae’r aelodau’n mynegi eu hunain yn hyderus, waeth beth fo’u gallu llafar.

Y tu hwnt i eiriau: Celf ac Eiriolaeth

Dydy codi llais ddim yn hawdd i bawb , a dyna pam mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf hefyd yn defnyddio celf a drama i gefnogi cyfathrebu a hunaneiriolaeth. O waith cydweithredol gyda Spectacle Theatre ar ymwybyddiaeth o droseddau casineb i adrodd straeon gweledol gyda darlunwyr, mae’r aelodau’n dod o hyd i ffyrdd pwerus o gael eu gweld a’u clywed, a hynny ar eu telerau eu hunain.

Mannau Diogel a Chymunedau Mwy Diogel

Mae Emma hefyd yn arwain ar y Cynllun Mannau Diogel, menter syml ond effeithiol sy’n darparu lleoedd dynodedig lle gall unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed neu wedi’i lethu ofyn am gefnogaeth. Mae’r cynllun, a ddatblygwyd gydag awdurdodau lleol a’r heddlu, wedi rhoi hwb i hyder llawer yn y gymuned.

“Mae’n rhoi’r haen ychwanegol honno o ddiogelwch,” esbonia Emma. Hyd yn oed os nad yw pobl yn ei defnyddio’n aml, mae gwybod bod y gefnogaeth yno yn annog mwy o annibyniaeth a rhyddid.

Newid Meddyliau a Newid Systemau

Mae Emma hefyd yn angerddol am chwalu’r camsyniadau sy’n parhau ynghylch anableddau dysgu. “Mae pobl yn meddwl na allan nhw ddysgu – ond gyda’r amser a’r gefnogaeth iawn, fe allan nhw ddysgu a ffynnu yn bendant.”

Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl mewn ysgolion, i nyrsys dan hyfforddiant ac i eraill, gan helpu i herio rhagdybiaethau ac adeiladu cymunedau cynhwysol. Mae eu neges yn syml: gweld y person yn gyntaf.

Beth nesaf?

Mae’r haf hwn yn un prysur iawn i Pobl yn Gyntaf Cwm Taf – gyda pherfformiadau, digwyddiadau eiriolaeth a gwaith parhaus gyda gwiriadau iechyd, ymwybyddiaeth o droseddau casineb a thrafnidiaeth gyhoeddus gynhwysol. Ac wrth wraidd y cyfan mae cred ddiwyro Emma mewn cyd-gynhyrchu – gwasanaethau wedi’u hadeiladu gyda phobl, nid ar eu cyfer nhw.

“Mae hunaneiriolaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn helpu i newid a dylanwadu ar bolisi. Ac mae hynny’n arwain at newid go iawn i bobl ag anableddau.”

Mae modd clywed stori lawn Wendy ar Tidy People – ar gael nawr fel podlediad a phodlediad fideo

Eisiau cymryd rhan?
Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf bob amser yn chwilio am Fannau Diogel newydd i’w cofrestru a mwy o bobl i ymuno â’r mudiad. I ddysgu mwy, cysylltwch â nhw; neu cysylltwch â ni os hoffech chi gael eich cynnwys mewn pennod o Tidy People yn y dyfodol.

Mae Tidy People yn cael ei gyflwyno gan Gymdeithas Tai Trivallis, sy’n dathlu pobl gyffredin sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau.

I gysylltu â ni: comms@trivallis.co.uk