Fy Trivallis i

Deg rheswm pam rwy’ wrth fy modd yn byw yn fy nghartref Trivallis (Saesneg yn unig)

Emma Nicholas ydw i, ac rwy’n byw mewn cartref Trivallis. Yn ddiweddar, es i ati i wneud rhestr o’r holl bethau rwy’n eu mwynhau am fyw mewn tŷ cymdeithasol.

Ym mis Awst, daeth y tîm Cyfathrebu i’r tŷ i dynnu rhai lluniau, felly es i ati i restru fy hoff bethau am fyw mewn tŷ cymdeithasol. Fel arfer, mae’r bobl Cyfathrebu’n gofyn cwestiynau ac rwy’n hoffi bod yn barod! Wrth i fi eistedd gyda phaned tra’r oedd y plant yn y gwely, cefais fy siomi ar yr ochr orau gan nifer y pethau a ddaeth i fy meddwl yn syth.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen fy rhestr:

  1. Cymdogion cyfeillgar: Un o’r pethau gorau yw bod fy nghymdogion ddim yn fy marnu i. Rydyn ni i gyd yn wahanol, ond rydyn ni’n trin ein gilydd yr un peth.
  2. Cymuned wych: Ysbryd cymunedol fy ystâd (dyma un o’r mannau mwyaf cyfeillgar rwy’ wedi ymweld ag ef neu fyw yno).
  3. Byth ar fy mhen fy hun: Dydw i byth yn unig fan hyn, ond mae gen i le i wneud fy mhethau fy hun, hefyd. Ac os oes angen rhywbeth arnoch fyth, hyd yn oed os nad ydych chi’n ffrindiau, mae pawb yn tynnu at ei gilydd. Cafodd fy ŵyr argyfwng meddygol a daeth pawb i helpu – nid i edrych na ffilmio ar eu ffôn fel sy’n digwydd fel arfer heddiw.
  4. Gwaith trwsio: Sicrwydd gwybod y bydd namau a gwaith trwsio yn cael eu datrys gan Trivallis (oes, mae rhai’n cymryd amser os nad ydyn nhw’n rhai brys), dim ots pa mor dynn yw hi arna’ i.
  5. Cartref sefydlog: To dros fy mhen yn y tymor hir. Rwy’n gwybod bydd lle gen i i fyw am amser hir.
  6. Cyffyrddiadau personol: Rwy’n gallu addurno’r tŷ a’i droi’n gartref i mi, cartref teuluol, ar ôl byw’n flaenorol mewn llety preifat lle’r norm, mae’n debyg, yw peidio â chaniatáu addurno.
  7. Cefnogaeth ychwanegol: Y gwasanaethau cymorth mae fy landlord yn eu cynnig y tu hwnt i’w ddyletswydd. Pan roeddwn i’n mynd trwy gyfnod anodd, ces i gefnogaeth, nid beirniadaeth.
  8. Mae’r teulu’n bwysig: Gwybod pe bai rhywbeth yn digwydd i mi, y byddai fy mab yn gallu aros yma neu gael ei ailgartrefu gerllaw os oedd yn ddigon hen.
  9. Rhent fforddiadwy: Oedd – roedd yn rhaid iddo fod yma’n rhywle – rhent gweddol fforddiadwy. Gadewch i ni fod yn onest, mae pawb yn ei chael hi’n anodd, ond o gymharu â rhent preifat, mae’n iawn.
  10. Gofod awyr agored: Y gofod awyr agored, fy ngardd, y tir o amgylch fy nghartref. Mae fy ngardd yn enfawr, digon mawr i adeiladu tŷ bach twt i fy mhlant; cyn hyn, rwy’ ond fyth wedi cael iard ac agor yn syth i’r ffordd.

 

Rwy’n caru fy nghartref.

Rwy’n caru fy nghymuned a’m ystâd.

Ydw i’n teimlo’n dlawd neu islaw rhywun oherwydd mod i’n byw mewn tŷ cymdeithasol? Dim o gwbl, rwy’n falch ac yn teimlo’n ffodus ac yn freintiedig bod gen i’r cyfan uchod a chymaint mwy.

Straeon tenantiaid

Rhannwch eich stori

comms@trivallis.co.uk

share your story image