Fy Trivallis i

Preswylwyr Rhydyfelin yn crefftio arddangosfa liwgar o babïau (Saesneg yn unig)

Am y tair blynedd diwethaf, mae aelodau’r Clwb Crefftau yn Library Court a grŵp gwau lleol Busy Bees a’r grŵp cyn-filwyr wedi dod at ei gilydd i greu arddangosfa anhygoel o babïau ar ochr eu hadeilad.

Gyda phabïau coch, porffor a gwyn wedi’u gwau, placiau pabïau pren, cerfluniau o filwyr, a gwaith celf gwreiddiol, maen nhw’n paratoi ar gyfer Dydd y Cofio ar 11 Tachwedd.

Mae cyffro’r pabïau wedi lledaenu i’r dafarn leol a’r ganolfan gymunedol erbyn hyn, sy’n falch o arddangos pabïau a cherfluniau’r grŵp. Mae trigolion eraill wedi ymuno hefyd, gan alw heibio â’u pabïau crefft ac mae’r clwb wrth eu bodd â’r ymateb.

Meddai Jan Pocket, aelod o’r Clwb Crefftau, “Mae’n anhygoel gweld y gymuned gyfan yn ymuno â ni. Rydym ni wrth ein bodd yn gwneud y pabïau ac maen nhw wrth eu bodd yn eu harddangos nhw. Rydym ni’n falch iawn bod ein harddangosfa wedi ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan ac mae’n sicr wedi’n cadw ni’n brysur. Mae’r merched wedi bod yn gwau’r pabïau a’u gwnïo nhw ar y ffrâm fetel. Mae Mike, sy’n gyn-filwr ei hun, wedi bod yn gwneud yr holl waith pren, gan dorri placiau’r pabïau a’r cerfluniau o’r milwyr o ddeunyddiau wedi’u hachub. Mae wedi bod yn llafur cariad ac yn esgus gwych dros ddod at ein gilydd a chael hwyl.”

Ffurfiwyd y Clwb Crefftau yn 2018 ar ôl i Trivallis agor y cynllun gwarchod, gan anelu at helpu tenantiaid i gwrdd â phobl newydd gyda diddordebau cyffredin. Wedi’i hysbrydoli gan waith celf y pabïau yng Nghastell Windsor, heriodd Susanne Rees, Cydlynydd y Cynllun, y clwb i roi ei stamp nhw arno, gan arwain at wau dros 2000 o babïau yn y flwyddyn gyntaf.

Nawr, mae’r clwb wedi ehangu i gynnwys pobl nad ydynt yn breswylwyr, gan arwain at wneud mwy o ffrindiau a mwy o rwydweithiau cymdeithasol, ac mae’r arddangosfa’n parhau i dyfu a dod yn fwy creadigol.

Meddwi Gaynor Bolderson o Hawthorn, sy’n aelod o grŵp gwau Busy Bees, “Mae’r grŵp gwau a’r clwb crefftau yn wych. Mae codi arian i Felindre gyda Busy Bees a chefnogi gweithgareddau Dydd y Cofio wir yn rhoi ymdeimlad o ddiben a llwyddiant i chi.”

Mae’r Clwb Crefftau wedi dod yn borth i gyfleoedd newydd, gan gynnig nosweithiau adloniant, teithiau i ffwrdd, dosbarthiadau dawnsio llinell a mwy. Ar ôl i weithgareddau Dydd y Cofio ddod i ben, bydd sylw’r grŵp yn troi at baratoi ar gyfer stondin grefftau’r Nadolig yn y ganolfan gymunedol ar 9 Rhagfyr. Trwy werthu eu creadigaethau, eu gobaith yw creu incwm i gadw’r grŵp i fynd a hyd yn oed denu arbenigwyr i ddysgu sgiliau crefftio newydd.

Straeon tenantiaid

Rhannwch eich stori

comms@trivallis.co.uk

share your story image