Fy Trivallis i

Mrs P yn hybu ei hincwm gyda help gan dîm cyngor ariannol Trivallis (Saesneg yn unig)

Mae Mrs P dros £25,000 yn well ei byd bob blwyddyn ar ôl cael cymorth gan Dîm Cyngor Ariannol Trivallis.

Dechreuodd y cyfan pan roedd Mrs P yn cael sgwrs gyda’r Rheolwr Cyfrif Rhent, a sylwodd ei bod hi’n nesáu at oedran pensiwn y wladwriaeth. Sylweddolon nhw nad oedd Mrs Pa wedi cael y cod angenrheidiol i ddechrau ei chais am bensiwn. Cyfeiriodd y rheolwr hi at Sue Hoskins, Swyddog Cyngor Ariannol yn Trivallis, a gamodd i’r adwy i helpu.

Meddai Sue, “Dechreuais i gynorthwyo Mrs P â’i chais am bensiwn, gan gael y cod angenrheidiol a helpu gyda’r cais. Fe wnes i ei gwahodd hi i un o’n sesiynau galw heibio am Gyngor Ariannol i roi rhagor o help iddi.”

Rhannodd Mrs P, “Cefais i gymaint o lythyron a doeddwn i ddim eisiau gofyn am help oherwydd roeddwn i’n teimlo’n wirion. Roeddwn i’n cael trafferth deall eu hystyr nhw. Esboniodd Sue bopeth heb wneud i mi deimlo’n dwp.”

Ar ôl cwblhau’r cais am bensiwn, cynhaliodd Sue wiriad o fudd-daliadau i archwilio cymorth ychwanegol i Mrs P.

Esboniodd Sue, “Fe wnaethom ni ddarganfod bod hawl gan Mrs P i gymorth ariannol arall, gan gynnwys credyd pensiwn y wladwriaeth, budd-dal tai, gostyngiad yn y dreth gyngor a chymorth â’i bil dŵr drwy dariff Help U. Yn gyfan gwbl, fe wnaethom ni nodi £25,537.75 anhygoel o incwm ac arbedion ychwanegol i Mrs P yn flynyddol!”

A hithau’n ddiolchgar am y cymorth, dywedodd Mrs P, “Rwy’n ddiolchgar i Sue am wneud gwahaniaeth yn fy mywyd, yn ariannol ac yn feddyliol. Atebodd hi bob cwestiwn oedd gen i. I bobl fel fi sy’n teimlo’n bod ni wedi cael ein gadael ar ôl, mae help ar ben arall y ffôn. Peidiwch â bod ofn; gofynnwch am help.”

Ychwanegodd Sue, “Mae gweld yr effaith gefais i yn rhoi boddhad i mi. Rwy’n cadw mewn cysylltiad â Mrs P, gan gynnig cymorth parhaus. Fe wnaeth hi hyd yn oed ymweld â’r swyddfa gyda charden a siocledi i ddweud diolch.”

Nododd Sue, “Mae achos Mrs P yn unigryw ac allwn ni ddim addo symiau mor fawr i bawb. Ond mae pob ceiniog yn helpu’r achos, felly rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. Does dim byd gennych i’w golli ac mae gennych lawer i’w ennill, yn ariannol ac yn emosiynol.”

Straeon tenantiaid

Siaradwch â’r tîm Cyngor Ariannol

01443 494560

share your story image