Fy Trivallis i

Dechrau newydd i John, diolch i Brosiect MAGPIE (Saesneg yn unig)

Meddai John Griffiths, neu John ‘Films’ i lawer o’i ffrindiau ac aelodau ei gymuned, “Rwy’n hapusach nag wyf wedi bod ers amser hir”, yn dilyn cymorth a gafodd oddi wrth wasanaeth Magpie Trivallis ac asiantaethau partner eraill.

Ac yntau nawr yn 76 oed, mae John wedi byw bywyd difyr; o weithio fel glanhawr injans ar gyfer injans stêm ar y rheilffordd, gweithredu peiriant torri cigoedd parod yn ffatri Lipton a chlustogi dodrefn mewn ffatri i Remploy, mae wedi bod mewn sawl swydd wahanol.

Yn ogystal â CV amrywiol, mae gan John lawer o ddiddordebau, gan gynnwys darllen llyfrau ac ymweld â llyfrgelloedd ledled Cymru, ysgrifennu a chynnal cwisiau mewn tafarndai lleol, adeiladu ffigurau Lego ac, yn anad dim, ffilmiau.

Bedair blynedd yn ôl, cafodd John broblemau gyda’i goesau a gafodd effaith fawr ar sut roedd e’n teimlo’n feddyliol ac yn gorfforol. Meddai John, “Mae iselder arna’ i, mae wedi bod ers tro. Ond pan aeth fy nghoes, wnes i wir roi’r gorau i boeni. Byddwn i’n aros yn y tŷ ac yn yfed caniau a’u taflu ar y llawr, doedd dim ots gen i bod llanast yma.”

Yn ogystal â sbwriel cyffredinol, roedd cartref John wedi llenwi â miloedd o DVDs a phentyrrau o Lego; roedd hi’n glir bod ei gasglu wedi mynd yn fwy na dim ond diddordeb, roedd yn anhwylder celcio ac yn risg difrifol i’w ddiogelwch. “Cyrhaeddodd bwynt lle byddwn i’n clywed cnoc ar y drws ac, erbyn i fi fynd drwy’r holl stwff i’w ateb, roedd yr ymwelydd mewn mynd. Aeth pethau’n drech na mi cymaint fel y dechreuodd pethau ddirywio’n sydyn a gwaethygu,” meddai John.

Roedd cyfaill i John wedi clywed am wasanaeth Magpie Trivallis, sy’n ceisio cefnogi pobl sy’n casglu pethau ac yn cael trafferth gwaredu eitemau, gan wneud eu cartref yn gyfyng ac yn llawn annibendod. Cyfeiriwyd John at y gwasanaeth a dyna pan ddechreuodd cysylltiad Cydlynydd Magpie, Sarah.

“Pan es i i gartref John, gallwn weld yn glir nad oedd hi’n ddiogel byw yno. Fy mhrif bryder oedd iechyd a diogelwch John, a gallwn weld ar unwaith ei fod yn sâl,” meddai Sarah.

Gweithiodd Sarah yn galed i ennyn ymddiriedaeth John er mwyn iddo gael yr help roedd ei angen arno i wella’i iechyd. Er ei fod yn cyfaddef nad oedd am adael i neb ddod i mewn yn wreiddiol, mae’n falch nawr ei fod wedi gwneud, gan ddweud: “Roeddwn i’n cael poen ofnadwy gyda fy nhraed a‘m  stumog ac fe wnaeth Sarah fy nghynorthwyo i fynd at y meddyg. Nawr, rwy’n cael help gyda hynny ac yn teimlo’n well.”

Oherwydd y risg iechyd a diogelwch yn yr eiddo, cytunodd John i symud i ystafell ymwelwyr cynllun gwarchod Bryn Ivor Trivallis yn Nhonypandy, ychydig cyn y Nadolig. Roedd symud wedi golygu bod John yn ddiogel a’i fod yn gallu gweithio gyda Sarah i reoli ei gelcio a chadw ei gartref yn lân ac yn daclus.

Dywedodd Sarah: “Ers y Nadolig, mae John wedi symud allan o’r ystafell ymwelwyr ym Mryn Ivor ac i gartref newydd, parhaol, yn y cynllun. Rwy’ wedi gweld gwelliant enfawr yn John, mae ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl wedi gwella, yn enwedig ei symudedd.”

Mae bod mor agos at ganol y dref a gwell iechyd yn golygu bod John yn gallu ailafael yn y pethau mae’n mwynhau eu gwneud. Ers symud i’w gartref newydd, mae’n mynd yn aml i mewn i Donypandy ar y bws neu mewn tacsi i grwydro’r siopau, cael tamaid yng Nghaffi Conti a mwynhau chwisgi yn y Pandy Inn.

Mae John yn parhau i weithio gyda Sarah, a ddywedodd: “Dydyn ni ddim yn barnu yn Trivallis, yn hytrach, rydym ni’n gweithio gyda phobl i ddeall eu meddyliau a’u teimladau tuag at yr eitemau yn eu cartref.

“Mae newid arferion yn cymryd amser ond, trwy ein prosiect MAGPIE, bydd ein tîm pwrpasol wrth law i symbylu unrhyw un sy’n cael trafferth â chelcio. Rydym ni’n dechrau trwy edrych ar y pethau’r hoffen nhw eu newid – gan wneud yn siŵr ein bod yn ei chymryd hi’n araf ac ar gyflymder addas iddyn nhw.

Pan ofynnwyd a fyddai’n argymell y gwasanaeth hwn i unrhyw un a oedd yn teimlo dan bwysau oherwydd nifer yr eitemau yn eu cartref, fel yr oedd ef, dywedodd John: “Yn y gorffennol, byddwn i fyth wedi derbyn help gan wasanaeth fel hyn gan nad oeddwn i’n hoffi’r syniad ohono. Nawr, byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd i dderbyn yr holl help y gallant ei gael.”

Mae help a chymorth gan brosiect Magpie Trivallis ar gael yn rhad ac am ddim ac mae ar gael i denantiaid unrhyw landlord cymdeithasol cofrestredig ar draws Rhondda Cynon Taf.

Straeon tenantiaid

Rhannwch eich stori

comms@trivallis.co.uk

share your story image