Fy Trivallis i

Ydych chi mewn perygl uniongyrchol?

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Sut gallwn ni helpu

Mae gennym Dîm Cymdogaeth pwrpasol sy’n delio â phroblemau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Pan fyddwch chi’n ein ffonio ni, byddwn ni’n ysgrifennu popeth rydych chi’n ei dweud wrthym am beth sydd wedi digwydd. Bydd y manylion yn cael eu trosglwyddo i’n tîm Cymdogaeth, ac wedyn byddan nhw’n cysylltu â chi i’w drafod ac i ymchwilio i’r broblem, gan gasglu tystiolaeth a siarad â phawb sy’n gysylltiedig. Byddan nhw’n dweud wrthych am asiantaethau cymorth eraill a all eich helpu chi a chytuno ar ba gamau ddylai gael eu cymryd.

Byddwn ni’n cynorthwyo tenantiaid sy’n gwneud cwyn, dioddefwyr a thystion trwy gydol y broses. Bydd unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd yn rhesymol ac yn deg. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac yn disgwyl i breswylwyr ddilyn y rheolau ar ymddygiad derbyniol, sydd yn eich Contract Preswylio.

Eleni, fe wnaethon ni ddatrys 712 o achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Beth os nad ydw i’n hapus

Gall anghydfodau rhwng cymdogion ac ymddygiad fod yn gymhleth a gall datrys y sefyllfa gymryd amser. Rydym ni’n gwybod y gall hyn fod yn bryderus neu’n rhwystredig, ond ffoniwch ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 03000 030 888 os nad ydych chi’n hapus â’r cymorth a gawsoch. Rydym ni yma i wrando ac yma i helpu.

Rhowch wybod am ymddygiad gwrth-gymdeithasol