Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Sut gallwn ni helpu

Mae ein timau yma i ddatrys problemau gyda gwastraff ar ein hystadau. Os gwelwch chi broblem, rhowch wybod i ni ac awn ati i’w datrys.

Os gwnawn ni ddarganfod bod y broblem wedi cael ei chreu’n fwriadol gan un o’n tenantiaid – er enghraifft trwy dipio gwastraff yn anghyfreithlon neu bentyrru sbwriel yn eu gardd – gallem weithredu yn eu herbyn neu godi tâl arnynt am fynd â’r gwastraff i ffwrdd.

Rydym ni’n ymrwymo i’ch helpu i greu a chynnal cymdogaeth ardderchog sy’n lle dymunol i fyw.

Estyn allan

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud eich ystâd yn lle y gallwch fod yn falch ohono.

Pam mae gwastraff yn broblem?

Pan fydd gwastraff a sbwriel yn cronni, gallan nhw achosi problemau mewn cartref ac ar ein hystadau.

Gall gwastraff y tu mewn i’r cartref arwain at amrywiol broblemau iechyd, gan gynnwys problemau anadlu oherwydd presenoldeb llwydni, alergenau a gwiddon llwch; stumog dost oherwydd bwyd sydd wedi mynd yn hen; a heintiau neu afiechydon wedi’u hachosi gan blâu fel llygod mawr a phryfed sy’n cael eu denu at y gwastraff.

Mae sbwriel sy’n cael ei adael i gronni y tu allan, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, yn gallu denu llygod mawr a phryfed. Gall fod yn berygl tân hefyd ac mae’n berygl i blant sy’n chwarae’r tu allan.

MAGPIE

Trwy ein prosiect MAGPIE, gallwn gynorthwyo pobl sy’n casglu pethau ac sy’n cael trafferth cael gwared ar eitemau, gan wneud eu cartref yn gyfyng ac yn llawn annibendod.

Dydyn ni ddim yn barnu; yn hytrach, byddwn i’n gweithio gyda chi i ddeall eich teimladau am eich pethau. Mae ein tîm pwrpasol yma i’ch helpu i wneud newidiadau ar eich cyflymder chi, gan gynnig cymorth am ddim, cyhyd ag y bydd ei angen.

Cael help gan MAGPIE

Os ydych chi’n adnabod rhywun yn RhCT a allai elwa, llenwch y ffurflen hon

Rhoi gwybod am broblem