Fy Trivallis i

Pam cyfnewid eich cartref

Mae cyfnewid cartref yn gyfnewid rhwng dau denant tai cymdeithasol. Gall ddigwydd am sawl rheswm, er enghraifft yr angen am fwy (neu lai) o le, symud ar gyfer gwaith neu symud i fod yn agosach at deulu. Mae’n opsiwn gwych i denantiaid tai cymdeithasol sy’n methu defnyddio’r broses neilltuo arferol neu nad ydynt am aros am y broses honno. Mae’n rhoi mwy o reolaeth i chi ac mae’n golygu y gallwch chi ddewis cartref sy’n addas i’ch anghenion yn well, rhywle lle’r ydych chi am fyw.

Sut gallwn ni helpu

Gall ein tîm eich helpu i wneud cais i ymuno â HomeSwapper. Yna, gallwch chwilio am ddarpar denantiaid i gyfnewid â nhw ac i drefnu gweld eich eiddo eich gilydd. Ar y cyfan, mae 90% o bobl yn dod o hyd i gartref addas o fewn 24 awr.

Os byddwch chi’n dod o hyd i gyfnewid da, bydd angen i chi roi gwybod i ni fel y gallwn archwilio eich eiddo a llunio cytundebau tenantiaeth newydd i’r ddau sy’n cyfnewid.

Cymryd y cam cyntaf

Trivallis Housing Landlord Wales A woman and a younger male companion, possibly her son, are standing together in front of a Trivallis housing property with the visible house number 29 on a cloudy day. Both are smiling and

Cyfnewid gyda ffrind?

Os oes gennych chi rywun mewn golwg i gyfnewid cartref â nhw, fel ffrind neu aelod o’r teulu, gofynnwch i ni am ffurflen cydgyfnewid.