Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Angen gwaith trwsio?

Os yw rhywbeth yn anniogel ac mae angen ei drwsio, cysylltwch â ni i drefnu gwaith trwsio.

A man carrying a toolbox smiling in front of a service van with

Cael mynediad i’ch cartref

Mae’n bwysig ein bod yn gallu cael mynediad i’ch cartref i gynnal y gwiriadau hyn. Cewch lythyron a negeseuon testun gyda dyddiadau apwyntiadau a negeseuon atgoffa. Os na fyddwch chi gartref i roi mynediad i ni, rhowch wybod i ni fel y gallwn newid yr apwyntiad.

Eleni, cafodd bron i £640,000 ei wastraffu ar apwyntiadau coll gan nad oedd tenant gartref i’n gadael ni i mewn.

Pa fath o wiriadau byddwn ni’n eu gwneud?

I wneud yn siŵr bod popeth yn ddiogel ac yn gyfreithiol yn eich cartref, rydym ni’n gwneud archwiliadau cyffredin ac archwiliadau diogelwch fel gwasanaeth nwy, profion trydanol, cynnal a chadw tân, ac arolygon. Mae gennym ganfodyddion Carbon Monocsid yn ein holl eiddo, hefyd.

Mae gennym un o’r cofnodion diogelwch gorau ymhlith cymdeithasau tai yng Nghymru, gan gydymffurfio 100% â safonau diogelwch nwy, diogelwch tân ac ansawdd dŵr.

Pa mor aml ydym ni’n cynnal y gwiriadau hyn?

Rydym ni’n cynnal arolygon diogelwch nwy unwaith y flwyddyn. Mae profion trydanol yn cael eu gwneud bob pum mlynedd.

Mae angen asesiadau risg tân ar rai o’n heiddo, sef blociau o fflatiau a chynlluniau gwarchod yn bennaf, a gwneir y rhain yn flynyddol.

Os oes gan eich cartref lifft neu declyn codi, bydd hwn yn cael ei archwilio bob chwe mis.

Faint o amser bydd y gwiriadau’n cymryd?

Ni ddylai gwiriadau diogelwch nwy gymryd mwy na 30 munud. Bydd angen i rywun dros 18 oed fod gartref i’n gadael ni i mewn. Gallai gwiriadau eraill gymryd mwy o amser, ond rhown wybod i chi pan anfonwn ni’r apwyntiad.

Gadewch i ni siarad

Trivallis Housing Landlord Wales An elderly woman with gray hair and glasses smiling while in a Trivallis housing room, with blurred figures in the background.

Gwirio eich tystysgrifau diogelwch