Fy Trivallis i

Mae ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn  Optimeiddio (ORP) yn ffordd glyfar o wneud gwelliannau i gartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Mae’r dull hwn yn edrych ar bopeth yn eich cartref, o’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud y cartref i’r ffordd rydych chi’n gwresogi ac yn storio ynni. Mae hyd yn oed yn ystyried sut mae ynni yn cyrraedd eich cartref.

Mae’r rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar greu cartrefi cynaliadwy sy’n llefydd gwell i fyw ynddyn nhw ac yn achosi llai o niwed i’r amgylchedd.

Gall y gwelliannau gynnwys:

  • Gwelliannau i inswleiddio’r cartref
  • Paneli solar
  • Gwelliannau i’r to
  • Gosod System Ynni Ddeallus

Y manteision i denantiaid:

  • Biliau ynni is: Mae ORP yn helpu i leihau eich costau ynni trwy wneud eich cartref yn fwy effeithlon.
  • Gallu rheoli’ch tymheredd yn well: bydd gwelliannau yn eich helpu i gadw’ch cartref ar dymheredd cyfforddus gydol y flwyddyn.
  • Datrysiadau wedi’u haddasu: Mae pob cartref yn cael cynllun unigryw yn seiliedig ar ei anghenion a’i ddeunyddiau.

Yn ystod cam cyntaf y rhaglen gwelwyd llwyddiant mawr i’r 65 o dai a gafodd welliannau ym Mherthcelyn. Disgwylir i’r cam nesaf gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024 gyda mwy o denantiaid yn debygol o elwa ar y rhaglen.

Trwy wella effeithlonrwydd ynni, mae ORP yn eich helpu i arbed arian a bod yn gyfforddus yn eich cartref. Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen help arnoch, rydyn ni yma i’ch helpu.

Find out how being able to better manage the temperature of her home has helped Sandra save money and better manage her long-term health condition.

Sandra’s warmer home
page image

Read how Rhian supported tenants to make the most of these improvements.

Rhian is keeping your home warmer
page image