Fy Trivallis i

Beth rydym ni’n ei uwchraddio

  • Ceginau – mae’n rhaid iddynt fod mewn cyflwr da gyda digon o le storio a lle i bopty, peiriant golchi ac oergell.
  • Ystafelloedd ymolchi – dylent fod o dan 25 oed. Byddwn hefyd yn uwchraddio dodrefn yr ystafell ymolchi ac yn ychwanegu cawod dros y bath.
  • Ailweirio – byddwn ni’n diweddaru’r weirio er diogelwch, gan gynnwys ychwanegu neu symud socedi trydan fel y bo angen i fodloni safonau modern.
  • Drysau a ffenestri – byddwn ni’n gosod ffenestri a drysau o safon uchel i’ch cadw chi’n ddiogel ac yn gynnes yn eich cartref
  • Boeleri – mae adnewyddu boeleri yn arwain at effeithlonrwydd ynni, arbedion costau a gwell effaith amgylcheddol mewn cartrefi.
  • Toeon – rydym ni’n adnewyddu toeon i sicrhau diogelwch, atal difrod a chynnal uniondeb strwythurol cyffredin yn eich cartref.
  • Diogelwch tân – mae systemau chwistrellu, atal tân a larymau gwres yn amddiffyn tenantiaid yn eu cartrefi.

Dysgwch pryd fydd eich eiddo chi’n cael ei uwchraddio

Gallwch weld pryd rydym ni’n gobeithio uwchraddio eich cartref trwy edrych yn eich cyfrif Fy Trivallis i.

Weithiau, mae ein cynlluniau’n newid, sy’n golygu bod rhaid diwygio ein rhaglen welliannau, ond rydym ni’n ymrwymo i wneud yn siŵr bod eich cartref yn cyrraedd lefelau uchel Safon Ansawdd Tai Cymru.

Gwirio dyddiad eich uwchraddiad

A man carrying a toolbox smiling in front of a service van with