Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Trivallis Housing Landlord Wales A person in a blue shirt, holding a document, stands behind a decorative

Rydym ni yma i helpu

Gall symud i gartref newydd fod yn gyffrous ac ychydig yn frawychus, ond rydym ni yma i wneud pethau mor hwylus â phosibl. Mae ein tîm cyfeillgar bob amser yn barod i helpu, felly mae croeso i chi estyn allan os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi.

Bydd ein tîm gwaith trwsio yn gofalu am unrhyw beth sydd angen ei drwsio yn eich cartref neu’ch gardd, tra bydd ein timau diogelwch yn gwneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel rhag peryglon nwy, tân a thrydan, gan fodloni pob gofyniad cyfreithiol. Mae gennym staff cymorth diogelu a thenantiaeth sy’n gallu’ch helpu i ffynnu yn eich cartref a gall ein cynghorwyr ariannol eich helpu gyda materion ariannol.

Yma i helpu

Mae eich cysur a’ch hapusrwydd yn bwysig i ni. Os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod eich profiad gyda ni yn fwy pleserus, rhowch wybod i ni.

Lawrlwytho

Lawrlwythwch ein pecyn croeso i denantiaid

A proud home chef stands with a smile in a well-equipped kitchen, wearing a striped apron and poised for a session of culinary creation.

Cymryd rhan

Rydym ni’n chwilio am denantiaid sydd am gymryd rhan gyda Trivallis, helpu i lywio ein gwasanaethau a gwneud yn siŵr bod llais ein tenantiaid yn cael ei glywed.

P’un a allwch chi ymrwymo ychydig funudau’r mis neu ychydig oriau’r wythnos, gallwch gymryd rhan. I ddysgu rhagor, ewch i’n gwefan ar gymryd rhan gan denantiaid.

Unwaith eto, croeso i’n cymuned! Edrychwn ymlaen at ddod i’ch adnabod chi a’ch cefnogi mewn tenantiaeth hir a hapus.

Cofrestrwch ar gyfer eich cyfrif ar-lein

Trivallis Housing Landlord Wales An elderly woman is laughing while sitting on a couch in a well-lit, modern kitchen area in a Trivallis RCT housing unit, holding a red and white mug in her hand.

Cysylltu â ni

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Lawrlwythiadau