Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm

Trivallis Housing Landlord Wales A smiling couple stands together in the backyard of a Trivallis housing residential home, with the woman holding onto a cane and a man with his arm around her.

Mae cael gardd braf yn cyfrannu at les ein tenantiaid. Eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am eich gardd, ond os bydd angen cymorth neu waith trwsio arnoch chi, p’un a yw hynny oherwydd cyfyngiadau amser, rhesymau iechyd neu unrhyw ffactorau eraill, rydym ni yma i helpu.

Sut gallwn ni helpu

Gall ein timau cynnal a chadw tir, ystâd a gwaith trwsio helpu gyda’r canlynol:

  • Trwsio ffensys a waliau gerddi
  • Trwsio llwybrau a phatios sydd wedi mynd yn beryglus neu’n anwastad
  • Trwsio drysau a thoeon siediau

Gerddi problemus

Weithiau, nid yw pobl yn gofalu am eu gerddi a gallant fynd yn berygl hyll i iechyd. Os sylwch chi ar ardd broblemus, rhowch wybod i ni.

Sylwch, os bydd swyddogion iechyd yr amgylchedd yn ein ffonio ni i sortio eich gardd chi, gallem godi tâl arnoch chi am y gwaith. Os ydych chi’n cael trafferth gofalu am eich gardd neu waredu gwastraff yn gywir, y peth gorau yw siarad â ni cyn i chi golli rheolaeth ar bethau. Rydym ni yma i wrando ac yma i helpu.

Faint o amser bydd yn ei gymryd

Ein nod fydd trwsio patios a llwybrau anniogel o fewn 20 diwrnod. Bydd gwaith arall mewn gerddi yn cymryd ychydig yn hirach – rhwng chwech a deuddeg mis – gan nad oes brys arnynt fel arfer.

Rydym ni’n ymrwymo i’ch cynorthwyo chi i greu a chynnal gardd bleserus, lle y gallwch chi ymlacio. Cysylltwch â ni heddiw a gadewch i ni gydweithio er mwyn gwneud eich gofod awyr agored yn fan rydych chi’n ei garu.

 

Dod o hyd i atebion

Trivallis Housing Landlord Wales A woman is pouring a beverage from a pot into a cup in a Trivallis kitchen while a man stands in the background observing.