Fy Trivallis i

Tŷ Taclus, Meddwl Taclus

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael gwared ar bethau yn eich cartref? Ydy popeth yn teimlo fel bod ganddo ystyr neu werth arbennig? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – ac mae Prosiect MAGPIE yma i helpu.

Rydyn ni’n deall y gall cael gwared ar eiddo fod yn emosiynol ac yn llethol iawn. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda chi i archwilio eich meddyliau, eich teimladau a’ch arferion o ran annibendod. Mae newid yn cymryd amser, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi ar eich cyflymder eich hun.

P’un a ydych chi eisiau bod yn fwy trefnus neu ddechrau cael gwared ar eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach, byddwn wrth eich ochr. Mae ein cymorth ar gael yn rhad ac am ddim, a byddwn yn gweithio gyda chi cyhyd ag y byddwch angen ein help ni.

Pam cymoni?

Gall cartref anniben effeithio ar eich iechyd a’ch diogelwch. Gall gormod o eitemau:

  • Gynyddu’r risg o faglu, cwympo neu fynd yn sownd
  • Creu peryglon tân
  • Arwain at amodau byw afiach

Gall cymoni eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth a theimlo’n fwy diogel a mwy cyfforddus yn eich cartref.

Arwyddion y gallai fod angen cymorth arnoch chi

Efallai y byddwch chi’n elwa ar gymorth:

  • Os na allwch chi ddefnyddio neu gyrraedd rhannau o’ch cartref
  • Os yw eich eiddo yn anhrefnus
  • Os nad oes gan y rhan fwyaf o eitemau fawr o werth, os o gwbl
  • Os oes gennych chi nifer anarferol o fawr o anifeiliaid anwes
  • Os ydych chi’n osgoi cymdeithasu neu wahodd pobl draw
  • Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd taflu unrhyw beth i ffwrdd

Cefnogi rhywun arall

Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod yn cael trafferth gydag annibendod:

  • Anogwch nhw i ofyn am help – gofynnwch i dîm Prosiect MAGPIE alw am sgwrs gyfeillgar
  • Dysgwch fwy am y broblem i ddeall eu profiad yn well
  • Cynigiwch gymorth os ydyn nhw’n gofyn amdano
  • Dathlwch eu cynnydd – gall adborth cadarnhaol fynd yn bell

Sut i gysylltu â ni

Rydyn ni eisiau i bawb deimlo’n ddiogel ac yn iach yn eu cartref. Os gallech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa ar gymorth, cysylltwch â Phrosiect MAGPIE:

  • 03000 030 888
  • www.trivallis.co.uk
  • Magpie@trivallis.co.uk

Pwy all gael cymorth gan y prosiect?

Tenantiaid cymdeithasau tai yn Rhondda Cynon Taf (RhCT)

Trivallis Housing Landlord Wales A group of six people dressed in formal attire pose for a photo at an event with dim pink and purple lighting. They are standing in front of a starry backdrop inside a venue with chandeliers and a disco ball. Some are holding awards.

Enillydd Gwobrau Tai Cymru

Roedden ni’n falch dros ben o gasglu dau dlws ar gyfer gwaith rheng flaen pwysig gyda rhai o’n tenantiaid mwyaf agored i niwed.

Darllen mwy