Fy Trivallis i

Gwasanaethau Cymorth Tai

Mae cymorth am ddim sy’n gysylltiedig â thai ar gael yn ardal Rhondda Cynon Taf, i unrhyw un sy’n 16 oed a throsodd sy’n gymwys. Gweler y manylion cymhwystra isod.

P’un a ydych chi’n cael trafferth gyda biliau, rheoli eich tenantiaeth neu ddod i arfer â sefyllfa newydd, mae’r cymorth yn hyblyg, yn addas i chi, ac yma cyhyd ag y mae ei angen arnoch chi.

Yn Trivallis, mae ein gwasanaeth SAFE yn darparu’r gwasanaeth hwn i’r rhai sy’n byw yn Taf.

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fagu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal eich cartref yn llwyddiannus a byw’n dda.

Gallwn eich cefnogi gyda’r canlynol:

  • Talu am eich cartref
  • Deall eich cyfrifoldebau fel tenant neu berchennog tŷ
  • Sefydlu’r hanfodion fel cyfleustodau nwy, trydan a dŵr
  • Ymdrin ag atgyweiriadau a gwelliannau
  • Cadw’n gynnes ac yn ddiogel
  • Meithrin perthynas gadarnhaol gyda’ch cymdogion/cymuned

Sut mae’n gweithio

  • Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref (neu mewn lleoliad arall y cytunir arno) i sgwrsio am eich anghenion a beth yw eich nodau.
  • Byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i greu cynllun cymorth wedi’i deilwra i’ch anghenion.
  • Er mwyn ein cadw ni i gyd ar y trywydd iawn, byddwn yn adolygu’r cynllun hwn yn rheolaidd ac yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill i’ch cysylltu ag unrhyw wasanaethau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch chi.

Cymhwystra

I atgyfeirio’ch hun neu i gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol (fel Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Iechyd Proffesiynol, Swyddog Prawf neu Swyddog Tai), rhaid i chi:

  • Fod yn 16 oed neu’n hŷn
  • Bod yn byw yn RhCT fel perchennog tŷ neu fod â chontract tai preifat neu gymdeithasol
  • Bod yn cael problemau tai sy’n golygu bod eich cartref yn wynebu risg nawr neu yn y dyfodol, neu fod ar fin dechrau contract tai newydd
  • Bod yn agored i niwed (e.e. problemau iechyd meddwl/corfforol, anabledd dysgu) ac yn wynebu heriau o ran cael gafael ar gyngor neu wasanaethau cymorth

Sut i gael gafael ar gymorth sy’n gysylltiedig â thai yn RhCT

Os gallech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa ar y cymorth hwn, cysylltwch â ni yn ardal Taf:

  • E-bost: SAFE@Trivallis.co.uk
  • Ffôn: 03000 030 888 (gofynnwch am gymorth SAFE)
  • Cyfeiriad: Trivallis, Tŷ Pennant, Stryd y Felin, Pontypridd, CF37 2SW

Am gymorth sy’n gysylltiedig â thai mewn ardaloedd eraill yn RhCT:

Os ydych chi’n byw yn Rhondda neu Cynon, cysylltwch â Hafod sy’n darparu’r cymorth hwn yn yr ardaloedd hynny:

Caerdydd:

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd ac angen cymorth ychwanegol, gofynnwch i’r tîm tai yng Nghyngor Caerdydd am gyngor.