Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Sut gallwn ni helpu

Rydyn ni’n cynnig gwahanol fathau o gymorth i denantiaid a allai fod angen help ychwanegol i aros yn eu cartrefi. Mae’r rhain yn wasanaethau cyfrinachol, am ddim, sy’n cael eu cynnig i’ch helpu chi ac yn seiliedig ar eich anghenion unigol.

Mae cymorth ar gael drwy gefnogaeth uniongyrchol gan ein timau, drwy eich cyfeirio at y gwasanaethau cywir, neu drwy weithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau hynny i gefnogi eich nodau.

Gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu:

Prosiect MAGPIE – Cymorth gyda chelcio

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cael gwared ar eitemau yn eich cartref, hyd yn oed pan fyddan nhw’n dechrau cronni? Ydy popeth yn teimlo fel bod ganddo ystyr neu werth arbennig? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae cymorth ar gael.

Mae Prosiect MAGPIE yn wasanaeth sy’n cefnogi pobl sy’n profi ymddygiadau celcio. P’un a ydych chi’n cael eich llethu gan faint o bethau sydd yn eich cartref, yn cael trafferth cynnal mannau byw diogel, neu ddim ond eisiau teimlo mwy o reolaeth, rydyn ni yma i helpu.

Dysgwch sut gallwn ni helpu: Prosiect MAGPIE – Trivallis

Get Ready and Move On (GRAMO)

Nod GRAMO yw rhoi’r dechrau gorau i bobl gyda’u tenantiaeth.

Ar gyfer pobl sy’n byw’n annibynnol am y tro cyntaf neu sy’n cael eu hailgartrefu ar ôl cyfnod o ddigartrefedd, gall addasu i ffordd newydd o fyw fod yn her.

Mae GRAMO yn brosiect gwybodaeth cyn tenantiaeth a gyflwynir drwy chwe sesiwn fer sy’n trafod y camau angenrheidiol i symud ymlaen a chael gafael ar y cymorth sydd ar gael. Mae’r sesiynau’n ymdrin â defnyddio Homefinder i ddod o hyd i eiddo sydd ar gael i chi, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghydfodau â landlordiaid, deall eich tenantiaeth, rheoli arian, biliau a chyllidebu, budd-daliadau a grantiau sydd ar gael.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am GRAMO: Get Ready and Move On (GRAMO) – Trivallis

Gwasanaethau Cymorth Tai yn Rhondda Cynon Taf

Drwy’r Grant Cymorth Tai, mae cymorth lle bo’r angen am ddim a chyfrinachol ar gael ym mhob ardal yn Rhondda Cynon Taf i helpu i atal digartrefedd a hyrwyddo byw’n annibynnol.

Yn Trivallis, rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth yn ardal Taf, tra bod Hafod yn darparu cymorth yn ardaloedd Cynon a Rhondda.

I atgyfeirio’ch hun neu i gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol (fel Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Iechyd Proffesiynol, Swyddog Prawf neu Swyddog Tai), rhaid i chi:

  • Fod yn 16 oed neu’n hŷn
  • Bod yn byw yn RhCT fel perchennog tŷ neu fod â chontract tai preifat neu gymdeithasol
  • Bod yn cael problemau tai sy’n golygu bod eich cartref yn wynebu risg nawr neu yn y dyfodol, neu fod ar fin dechrau contract tai newydd
  • Bod yn agored i niwed (e.e. problemau iechyd meddwl/corfforol, anabledd dysgu) ac yn wynebu heriau o ran cael gafael ar gyngor neu wasanaethau cymorth

Mae’r cymorth a ddarperir yn seiliedig ar eich anghenion unigol ac yn canolbwyntio ar adeiladu’r sgiliau a’r hyder i ofalu am eich cartref a byw’n annibynnol. Efallai eich bod chi’n cael trafferth gyda biliau neu reoli eich tenantiaeth, efallai eich bod chi’n dod i arfer â sefyllfa newydd. Mae’r cymorth a ddarperir yn hyblyg, wedi’i lunio o’ch cwmpas chi a’ch anghenion, a bydd yn aros yn ei le cyhyd ag y bydd ei angen arnoch chi.

Os oes angen cymorth arnoch chi, dysgwch fwy: Gwasanaethau Cymorth Tai yn Rhondda Cynon Taf – Trivallis

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.