Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Talu eich rhent

Mae angen i chi dalu eich rhent bob wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod bydd eich tenantiaeth yn dechrau. Os ydych chi’n cael trafferth, [rhowch wybod i ni] fel y gallwn eich helpu chi.

Cofiwch, mae talu eich rhent yn bwysig. Os na fyddwch chi’n ei dalu, gallech fod mewn perygl o golli eich cartref. Felly, gwnewch y rhent yn flaenoriaeth, hyd yn oed cyn biliau eraill fel y Dreth Gyngor neu gyfleustodau.

 

Trivallis Housing Landlord Wales A man gestures while speaking intensely to another person, with a banner reading

Cwrdd â’n tîm Cyngor Ariannol

Rydym ni’n deall y gall siarad â’ch landlord am arian deimlo ychydig yn chwithig, ond mae ein tîm Cyngor Ariannol yma i chi. Maen nhw’n darparu cyngor preifat, defnyddiol, yn rhad ac am ddim i wella eich sefyllfa ariannol. Eleni, helpon nhw denantiaid i ennill £2 filiwn o incwm ychwanegol.

 

Nid dim ond eich helpu gyda thalu eich rhent rydym ni’n ei wneud. Gall ein harbenigwyr ariannol helpu gyda:

  • Cyllidebu

  • Cyngor ar fudd-daliadau lles arbennig

  • Setting uAgor cyfrif banc

  • Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y budd-daliadau cywir

  • Arbed arian ar ynni a chyfleustodau

Help gyda budd-daliadau

Gallwn eich helpu i nodi unrhyw fudd-daliadau y gallech eu hawlio fel:

  • Y Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith Newydd
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth y Dreth Gyngor

Gallwch hefyd wirio beth y gallech chi fod â’r hawl iddyn nhw eich hun:

Cysylltwch ag aelod o’r Tîm Cynghori Ariannol os oes angen cymorth pellach arnoch.

Er na all y Tîm Cynghori Ariannol roi cyngor ar bethau fel rheoli dyled, delio â chwmnïau credyd neu weithgareddau penodol (oherwydd bod y rhain wedi’u cwmpasu gan reoliadau gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol), gallwn helpu mewn ffyrdd eraill.

Os oes angen cyngor arbenigol ar ddyledion arnoch, gallwn eich cyfeirio at Gyngor ar Bopeth, neu gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy Advicelink Cymru drwy ffonio 0800 7022 020.

Gallwch hefyd gael cymorth am ddim gan wasanaethau dibynadwy eraill, megis:

Mae’r sefydliadau hyn yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar, ac yma i’ch helpu i gymryd rheolaeth o’ch cyllid.

Cymorth

Cymryd y cam cyntaf

Help gydag arian

Gwirio balans eich rhent