Fy Trivallis i

Manteision cyfrif ar-lein

Beth mae Fy Trivallis i yn ei olygu i chi?

Wel, bydd eich gwybodaeth am dai ar gael i chi ar flaen eich bysedd, 24/7. Gallwch nawr wneud pethau fel:

Gallwch nawr wneud pethau fel:

Mae dechrau arni’n syml

Sut i gofrestru

I gofrestru ar gyfer eich cyfrif Fy Trivallis i, cliciwch ar y botwm Fy Trivallis i yng nghornel uchaf ochr dde’r wefan hon, yna cliciwch ar Cofrestru.

Cam 1: Rhowch eich cyfeiriad e-bost

Cam 2: Rhowch eich enw cyntaf, eich cyfenw, eich rhif yswiriant gwladol a’ch cod post, yna cliciwch ar nesaf. Wrth roi eich rhif Yswiriant Gwladol, peidiwch â gadael gofod rhwng y rhifau a’r llythrennau. Ar gyfer eich Cod Post, cofiwch roi un bwlch yn y canol, fel hyn: CF37 2SW.

Cam 3: Rhowch eich rhif ffôn symudol, yna teipiwch a chadarnhewch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif Fy Trivallis i. Cliciwch cyflwyno.

Os bydd eich manylion yn cyfateb i’r manylion ar ein system, byddwn ni’n creu cyfrif mewngofnodi. Byddwn ni’n anfon e-bost atoch pan fydd yn barod i chi fewngofnodi. Gwiriwch eich e-bost. Os na allwch ddod o hyd i’r e-bost, gwiriwch eich blwch negeseuon sbam.

Ar ôl i chi dderbyn yr e-bost, gallwch fewngofnodi i Fy Trivallis i.

Os na fydd y manylion a roddoch yn cyfateb, e-bostiwch ni ar customerservices@trivallis.co.uk a byddwn yn eich helpu i gofrestru.

 

Fy Trivallis i

Cofrestrwch nawr

Sut i fewngofnodi

Mewngofnodi

I fewngofnodi i’ch cyfrif Fy Trivallis i, cliciwch ar fotwm Fy Trivallis i yng nghornel uchaf ochr dde’r wefan hon, yna cliciwch ar Mewngofnodi.

Cam 1: Rhowch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair

Cam 2: Cliciwch ar Anfon cod. Bydd hyn yn cynhyrchu neges destun i’ch ffôn symudol, gyda rhif cod unigryw ynddi.

Cam 3: Rhowch y rhif cod, cliciwch ar Gwirio’r cod, ac i mewn â chi!

 

Cymorth

Ydych chi’n cael problemau â’ch cyfrif?

Trivallis Housing Landlord Wales Two women are engaged in a conversation. The woman on the left is wearing a white t-shirt that reads