Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Talu eich rhent

Mae angen i chi dalu eich rhent bob wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod bydd eich tenantiaeth yn dechrau. Os ydych chi’n cael trafferth, [rhowch wybod i ni] fel y gallwn eich helpu chi.

Cofiwch, mae talu eich rhent yn bwysig. Os na fyddwch chi’n ei dalu, gallech fod mewn perygl o golli eich cartref. Felly, gwnewch y rhent yn flaenoriaeth, hyd yn oed cyn biliau eraill fel y Dreth Gyngor neu gyfleustodau.

 

Trivallis Housing Landlord Wales A man gestures while speaking intensely to another person, with a banner reading

Cwrdd â’n tîm Cyngor Ariannol

Rydym ni’n deall y gall siarad â’ch landlord am arian deimlo ychydig yn chwithig, ond mae ein tîm Cyngor Ariannol yma i chi. Maen nhw’n darparu cyngor preifat, defnyddiol, yn rhad ac am ddim i wella eich sefyllfa ariannol. Eleni, helpon nhw denantiaid i ennill £2 filiwn o incwm ychwanegol.

 

Nid dim ond eich helpu gyda thalu eich rhent rydym ni’n ei wneud. Gall ein harbenigwyr ariannol helpu gyda:

  • Cyllidebu

  • Cyngor ar fudd-daliadau lles arbennig

  • Setting uAgor cyfrif banc

  • Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael y budd-daliadau cywir

  • Arbed arian ar ynni a chyfleustodau

Hefyd, gallwn helpu i ddarganfod a allech chi hawlio unrhyw fudd-daliadau i helpu gyda’ch rhent os oes gennych incwm isel. Rhowch wybod i ni, a byddwn ni’n falch o helpu.

Cymorth

Cymryd y cam cyntaf

Help gydag arian

Gwirio balans eich rhent