Fy Trivallis i

Gadael

Defnyddiwch y botwm gadael i fynd â chi i wefan arall os oes angen i chi adael y dudalen hon ar unwaith.

Ydych chi mewn perygl uniongyrchol?

Ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

Sut gallwn ni helpu

Bob blwyddyn, rydym ni’n helpu ac yn cefnogi tua 300 o ddioddefwyr cam-drin domestig gyda’n partneriaid allanol. Byddwn ni bob amser yn trin adroddiadau am gam-drin domestig yn gyfrinachol. Rydym ni’n gwneud yn siŵr bod dioddefwyr yn ddiogel ac yn gallu gwneud penderfyniadau sy’n iawn iddyn nhw. Os ydych chi mewn perygl ac mae angen ein help arnoch chi, byddwn ni’n gweithio’n gyflym ac yn ochelgar i’ch cadw chi’n ddiogel.

Mae gennym dîm diogelu sy’n canolbwyntio ar gadw pawb yn ddiogel. P’un a ydych chi’n oedolyn neu’n blentyn sy’n byw yn ein cymuned, mae eich diogelwch yn bwysig i ni.

Credwn fod pawb yn haeddu byw heb ofn niwed neu esgeulustod. Ein nod yw cynorthwyo pobl i gael lle diogel a chefnogol i fyw, fel y gallant fyw’n annibynnol a chyrraedd eu potensial llawn. Rydym ni’n deall bod troeon trwstan mewn bywyd ac, os yw eich sefyllfa yn newid er gwaeth, rydym ni yma i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch chi. Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth bennaf.

Gadael

Defnyddiwch y botwm ymadael i fynd â chi i wefan arall os oes angen i chi adael y dudalen hon ar unwaith.

Cymorth

Cysylltu â ni

Trivallis Housing Landlord Wales Illustration of two hands gently cupping a heart symbol, set against a blue background, representing care, love, or charity in the context of Trivallis housing in RCT.