Fy Trivallis i

Sylwi ar Gamwybodaeth Ar-lein

21 May 2025

Mae camwybodaeth yn lledaenu'n hawdd pan fydd emosiynau'n uchel, yn enwedig ynglŷn â phynciau pwysig fel tai, diogelwch a mewnfudo.

Rydyn ni i gyd wedi gweld negeseuon ar-lein sy’n ennyn pryder, sy’n teimlo’n annheg, neu sydd hyd yn oed yn ein gwylltio ni. Ac yn anffodus, mae peth o’r cynnwys hwnnw wedi’i gynllunio i wneud i bobl deimlo felly.

Mae camwybodaeth yn lledaenu’n hawdd pan fydd emosiynau’n uchel, yn enwedig ynglŷn â phynciau pwysig fel tai, diogelwch a mewnfudo. Ond fe allwn ni i gyd gymryd cam yn ôl a gofyn:

  • “Ydy’r neges hon wedi’i chynllunio i’ch gwylltio neu’ch gwneud chi’n ofnus?”
  • “Ydy’r neges yn beio grŵp cyfan o bobl?”
  • “O ble mae’n dod – ydy’r ffynhonnell yn un go iawn a dibynadwy?”

Os nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn, gwrandewch ar eich greddf. Y gwerthoedd caredig, croesawgar sydd gan gymaint ohonom yw’r canllaw gorau.

Deall “chwibanau cŵn” – pan fydd gan iaith neges gudd

Weithiau mae pobl yn defnyddio ymadroddion sy’n swnio’n ddigon cyffredin, ond mewn gwirionedd eu bwriad yw lledaenu ofn neu fai yn dawel bach. “Chwibanau cŵn” yw’r enw ar hyn – iaith cod sy’n gallu annog rhaniad, ond gan wneud hynny’n gynnil.

Efallai eich bod wedi gweld pethau fel:

  • “Maen nhw’n newid ein ffordd o fyw”
  • “Beth am bobl leol?” (wedi’i ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n awgrymu bod eraill yn llai haeddiannol)
  • “Dydy’r lle ddim yn ddiogel mwyach”
  • “Maen nhw’n cael popeth ar blât”

Os ydych chi wedi defnyddio neu wedi rhannu negeseuon o’r fath, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae’r ymadroddion hyn yn aml yn ymddangos mewn negeseuon sydd wedi’u cynllunio i gamarwain, ac mae llawer o bobl wedi eu mabwysiadu heb feddwl am y niwed y gallan nhw ei achosi.

Ond dydy hi byth yn rhy hwyr i oedi, myfyrio, a dewis llwybr mwy caredig wrth symud ymlaen.

Gofal piau hi gyda Chyfrifon Ffug neu Ddienw

Er bod rhai proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn edrych yn lleol neu’n gyfeillgar, dydy hynny ddim wastad yn wir. Cadwch lygad am gyfrifon:

  • Heb enw neu lun go iawn
  • Sy’n postio am bynciau cynhennus yn unig
  • Sy’n ymddangos yn sydyn pan fydd cartrefi newydd neu newidiadau cymunedol yn cael eu cyhoeddi
  • Sy’n copïo a gludo’r un cynnwys mewn gwahanol ardaloedd

Dydy’r cyfrifon hyn yn aml ddim yn lleol o gwbl – ac maen nhw’n dibynnu ar bobl go iawn i ledaenu eu negeseuon ymhellach yn ddiarwybod.

Gadewch i ni beidio â rhoi’r pŵer hwnnw iddyn nhw.

Mae Lleisiau Caredig yn Bwysig

Does dim rhaid i chi fynd i ddadl i wneud gwahaniaeth. Gall hyd yn oed y pethau bychain helpu:

  • Gofynnwch: “Ble welsoch chi hynny?”
  • Rhannwch ffynhonnell sy’n seiliedig ar ffeithiau yn bwyllog
  • Dywedwch: “Dwi’n credu ein bod ni i gyd eisiau’r gorau i’n cymuned – gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y darlun yn llawn.”

Gall ymagwedd dawel, chwilfrydig atal naratifau niweidiol – a sicrhau bod sgyrsiau yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin o degwch, gwirionedd a gofal.

 

Y Tactegau a ddefnyddir i rannu Cymunedau

Yn anffodus, mae rhai grwpiau yn mynd ati’n fwriadol i ledaenu ofn a rhaniadau ar-lein. Maen nhw’n aml yn:

  • Dechrau sibrydion ar ôl cyhoeddiadau am dai neu gymunedau
  • Defnyddio ofn ynghylch mewnfudo i dynnu’r sylw oddi ar faterion ehangach
  • Rhannu cynnwys dramatig neu emosiynol heb fawr o gyd-destun
  • Defnyddio iaith cod (chwibanau cŵn) i ysgogi bai
  • Esgus bod yn lleol neu’n “bryderus yn unig” pan nad ydyn nhw go iawn

Mae’r tactegau hyn yn gweithio orau pan fydd pobl yn teimlo’n ddi-rym. Ond mae ein cymunedau yn gryf – a gallwch helpu i atal y triciau hyn rhag bwrw gwreiddiau.

Nid dyma pwy ydyn ni

Mae gan ein cymoedd draddodiad hir o fod yn hael, caredig a chroesawgar. Rydyn ni’n helpu ein cymdogion, rydyn ni’n cefnogi’r rhai mewn angen, ac yn gwybod mai bod yn un gyda’n gilydd yw ein cryfder.

Os ydych chi wedi bod yn amau pethau’n ddiweddar, neu’n teimlo’n ansicr – mae hynny’n iawn. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Nodyn i’ch atgoffa yw hwn bod eich caredigrwydd, eich tegwch a’ch gofal yn dal yno – a bod eu hangen nhw yn fwy nag erioed.

Pwyllwch cyn rhannu

Cyn ail-bostio rhywbeth:

  • Gofynnwch i chi’ch hun ydy hynny’n cyd-fynd â’r math o gymuned rydych chi am fyw ynddi
  • Gwiriwch a yw’n dod o ffynhonnell ddibynadwy
  • Meddyliwch am y peth am eiliad – ydy’r neges yn annog caredigrwydd neu’n ysgogi rhaniad?

Os ydych chi’n simsanu, peidiwch â’i rannu.

 

Oes gennych chi syniad?

Rydyn ni’n chwilio am ffyrdd o ddod â phobl at ei gilydd a chael sgyrsiau mwy agored, gonest a pharchus – ar-lein ac oddi ar-lein. Os oes gennych chi syniad ar gyfer digwyddiad cymunedol, ymgyrch ar-lein, neu brosiect a allai helpu, cysylltwch â comms@trivallis.co.uk. Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi.

Gadewch i ni barhau i adeiladu cymuned y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddi.