Fy Trivallis i

Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Crynodeb o Berfformiad Rheoleiddiol 2025

26 June 2025

Dyma gipolwg ar sut rydyn ni wedi perfformio - a beth rydyn ni am ei wneud nesaf i sicrhau gwelliant pellach.

Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwirio pa mor dda rydyn ni’n bodloni safonau tai Llywodraeth Cymru. Dyma gipolwg ar sut rydyn ni wedi perfformio – a beth rydyn ni am ei wneud nesaf i sicrhau gwelliant pellach.

Arweinyddiaeth a Llywodraethu

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni gael arweinyddiaeth gref a gwneud penderfyniadau sy’n ein helpu i ddarparu cartrefi a gwasanaethau diogel, fforddiadwy sy’n bwysig i chi.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni’n cydymffurfio’n llawn. Lansiwyd strategaethau newydd, cafodd ein hyfforddiant ar gyfer y bwrdd ei wella, ac fe wnaethom ni’n siŵr bod tenantiaid yn helpu i lunio ein penderfyniadau ar bob lefel.
Nesaf: Byddwn yn gwneud ein hadroddiadau perfformiad yn fwy clir, yn rhoi hwb i amrywiaeth ar y Bwrdd, ac yn profi i  ba raddau y mae ein prosesau recriwtio newydd yn gweithio.

 

Rheoli Risg

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni sylwi ar risgiau’n gynnar, cynnal archwiliadau mewnol cryf, a chynllunio ar gyfer argyfyngau.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Mae gennym ni systemau cryf ar waith ac rydyn ni’n archwilio ein gwaith yn rheolaidd. Mae cynlluniau parhad busnes a seiberddiogelwch ar waith.
Nesaf: Byddwn yn parhau i brofi cynlluniau argyfwng, yn dysgu mwy o ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac yn sefydlu grŵp parhad busnes rheolaidd.

 

Darparu Gwasanaethau o Ansawdd Uchel

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni gadw tenantiaid yn ddiogel, trwsio problemau yn gyflym, a darparu gwasanaethau sy’n diwallu eich anghenion.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni’n cadw at safonau diogelwch, gan gynnwys lleithder a llwydni. Rydyn ni wedi helpu 3,000+ o denantiaid gyda chymorth ariannol neu denantiaeth.
Nesaf: Mwy o hyfforddiant staff ar reoli contractwyr a gwelliannau parhaus i’r gwasanaeth.

 

Cynnwys Tenantiaid

Beth mae’n ei olygu: Dylai tenantiaid gyfrannu at lunio gwasanaethau a phenderfyniadau.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Mae tenantiaid yn cymryd rhan ar fyrddau, yn llunio polisïau, arolygon, a digwyddiadau cymunedol. Roedd T-Fest yn dathlu lleisiau a dylanwad tenantiaid.
Nesaf: Byddwn yn cynnal sioe deithiol i denantiaid, yn cynnwys mwy o denantiaid ar-lein a gyda’r nos, ac yn cysylltu â phobl ddibynadwy yn y gymuned i ehangu cyfranogiad.

 

Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth

Beth mae’n ei olygu: Dylai rhenti a thaliadau fod yn fforddiadwy, yn deg, ac wedi’u hesbonio’n glir.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Dilynwyd canllawiau ar rent a chynnwys tenantiaid i greu ein polisi rhent. Cadwyd yr holl gostau o fewn y terfyn cyfreithiol.
Nesaf: Rydyn ni’n archwilio arolygwyr tenantiaid i helpu i wirio ansawdd a gwerth gwasanaethau.

 

Gwerth am Arian

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni ddefnyddio ein harian yn ddoeth a dangos sut rydyn ni’n ei ail-fuddsoddi mewn cartrefi a gwasanaethau.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni wedi arbed arian trwy ddod ag atgyweiriadau yn fewnol a defnyddio arbedion i gefnogi cymunedau (fel pecynnau paent a phrosiectau lleol).
Nesaf: Byddwn yn cynnal teithiau cymunedol i rannu sut mae uwchraddiadau i arbed ynni yn gweithio i denantiaid.

 

Cynllunio Ariannol

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni fod yn sefydlog yn ariannol nawr ac yn y dyfodol, gyda chynlluniau clir a defnydd gofalus o gyllid.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni mewn sefyllfa ariannol gref ac wedi sicrhau cyllid newydd ar gyfer cartrefi mwy fforddiadwy.
Nesaf: Byddwn yn parhau i adolygu cynlluniau, monitro gwariant datblygu newydd, a sicrhau ein bod yn cadw’n iach yn ariannol.

 

Rheoli Cartrefi ac Asedau

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i ni ddeall yr hyn sy’n eiddo i ni a defnyddio’r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau da.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni wedi asesu 2,700 o gartrefi ac wedi rhoi sgôr ynni i 2,100 yn fwy er mwyn cynllunio ar gyfer uwchraddiadau yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd wedi ail-bwrpasu cartrefi anodd eu gosod i gefnogi cymunedau.
Nesaf: Parhau ag arolygon a pharatoi cartrefi ar gyfer targedau ynni y dyfodol.

 

Cartrefi o Ansawdd Uchel

Beth mae’n ei olygu: Rhaid i bob cartref fod yn ddiogel, wedi’i gynnal yn dda, a bodloni safonau Llywodraeth Cymru.
Sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni: Rydyn ni’n adeiladu 130 o gartrefi newydd bob blwyddyn, yn sicrhau bod modd defnyddio 31 o gartrefi unwaith eto, ac yn cwblhau’r rhan fwyaf o’n huwchraddiadau arfaethedig.
Nesaf: Parhau i gyflawni ein cynlluniau buddsoddi a gweithio gyda thenantiaid ar brosiectau adfywio hirdymor fel Penrhys.

 

Beth nesaf?

Rydyn ni’n falch o fodloni pob un o’r naw safon – ond nid da lle gellir gwell. Mae ein cynllun gwella ar gyfer 2025 yn cynnwys:

  • Data ac offer perfformiad newydd
  • Amrywiaeth a hyfforddiant y Bwrdd
  • Cyfranogiad ehangach gan denantiaid
  • Mwy o uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni

Mae tenantiaid yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r gwelliannau hyn a sicrhau bod ein hasesiadau yn gywir ac yn deg.

 

Eisiau cymryd rhan?

Cysylltwch â’r Tîm Cynnwys Cwsmeriaid a rhowch wybod i ni sut yr hoffech chi wneud gwahaniaeth.

Gallwch ddarllen yr adroddiad manwl llawn yma.