Fy Trivallis i

Stori Brian am Pat: cariad, dewrder a bywyd y tu hwnt i anabledd

3 December 2025

Pan fydd Brian yn sôn am ei ddiweddar wraig Pat, mae ei lais yn llawn balchder ond colled enbyd. “Maen…

Pan fydd Brian yn sôn am ei ddiweddar wraig Pat, mae ei lais yn llawn balchder ond colled enbyd. “Maen nhw’n dweud y bydd pethe’n dod yn haws,” meddai, “ond mynd yn anoddach maen nhw i mi. Roedd Pat gyda fi erioed. Nawr, mae bwlch enfawr.”

Ganwyd Pat gyda pharlys yr ymennydd, cyflwr oedd yn effeithio ar ei symudedd a’i lleferydd. Ond ni adawodd iddo ddiffinio ei bywyd na’i stori garu gyda Brian. Wedi iddi farw ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd Brian ysgrifennu llyfr i anrhydeddu ei dewrder a’u siwrnai ryfeddol gyda’i gilydd.

“Roeddwn i am i bobl wybod beth gyflawnodd Pat,” meddai. “Roedd hi’n fenyw anhygoel.”

O ffrindiau drwy’r post i bartneriaid oes

Dechreuodd eu stori yng nghanol y 1950au, pan oedd Brian yn 17 oed â llond llaw o ffrindiau drwy’r post (pen pals). Ymhlith yr enwau roedd merch o Aberpennar o’r enw Pat. “Roedd yn rhaid i mi agor y map,” chwarddodd Brian, gan gofio sut y bu iddo feicio 27 milltir o Ben-y-bont ar Ogwr i gwrdd â hi. Newidiodd y cyfarfod cyntaf hwnnw bopeth.

“Roedd ganddi lygaid brown hyfryd,” mae’n cofio. “Fe wnaethon ni glicio ar unwaith.” Nid oedd Pat yn gadael i’w hanabledd ei diffinio; yn hytrach, roedd ei phersonoliaeth bob amser yn disgleirio.

“Doeddwn i ddim yn gweld yr anabledd. Dim ond y person,” meddai Brian.

Chwalu rhwystrau gyda’i gilydd

Roedd cryfder ac ysbryd Pat yn rhyfeddol. Er gwaetha’r ffaith ei bod angen help i wisgo a symud, roedd hi’n chwaethus, yn ffraeth ac yn annibynnol i’r carn.
“Doedd hi byth yn un am ddrama,” meddai Brian. “Roedd ganddi feddwl chwim iawn. Rhy chwim i mi y rhan fwyaf o’r amser!”

Doedd bywyd gyda’i gilydd ddim bob amser yn hawdd. Yn y dyddiau hynny, roedd hygyrchedd yn brin. Mae Brian yn cofio cario Pat i fyny’r grisiau i’w fflat yn Fernhill a gwthio ei chadair olwyn drwy strydoedd Aberpennar. Eu huchafbwynt wythnosol oedd mynd i Caffè Bracchi, caffi Eidalaidd oedd mor annwyl i’r ddau ac a ddaeth yn ganolfan gymdeithasol iddyn nhw.

“Falle bod pobl yn syllu arnon ni, ond doedd dim ots ‘da ni,” meddai Brian. “Roedden ni’n gwmws fel unrhyw gwpl arall.”

Bywyd llawn antur

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw adeiladu bywyd llawn cyffro. “O straffaglu mynd pedair milltir i Aberdâr, fe wnaethon ni ymweld â bron i 20 o wledydd,” meddai Brian gyda rhyfeddod. Roedd Pat yn cofleidio bob profiad, gan brofi nad oedd Parlys yr Ymennydd byth yn ei hatal rhag byw bywyd i’r eithaf.

Cafodd ei gwydnwch ei siapio’n gynnar iawn. Fe wnaeth ei mam, Ruby, frwydro’n ddiflino dros ei haddysg, hyd yn oed yn ei gwthio i fyny’r rhiw serth i’r ysgol chwe gwaith y dydd nes i chwalfa nerfol newid pethau. Yn y pen draw, mynychodd Pat ysgol breswyl i ferched ag anabledd corfforol yn Wiltshire, Lloegr. Rhoddodd hyn annibyniaeth a sgiliau iddi, gan gynnwys teipio, a helpodd hi i gysylltu â Brian yn ddiweddarach.

Anrhydeddu gwaddol Pat

Mae llyfr Brian am fywyd Pat yn deyrnged i’w dewrder a’u cariad. Mae’r ymateb wedi bod yn deimladwy. Fe wnaeth un ferch ifanc ei stopio y tu allan i’r llyfrgell, gan ddweud, ‘Mr. Chick, rhaid i mi ddiolch i chi am lyfr Pat. Fe wnaeth i mi grio.’

Mae Brian yn gobeithio y bydd eu stori yn ysbrydoli eraill i weld y tu hwnt i anabledd. “Peidiwch byth â barnu neb ar yr olwg gyntaf” meddai. “Cymerwch y cam cyntaf hwnnw. Wnaeth Pat erioed ofyn, ‘Pam fi?’ Roedd hi jest yn byw.”

Mae ei bywyd yn profi bod modd goresgyn rhwystrau a ffynnu, gyda digon o gymorth a dyfalbarhad.

Cariad pur sydd fel y dur

Heddiw, mae Brian yn mynd â’r cof amdani i bobman. “Pe bawn i’n gallu troi’r cloc yn ôl a chael dim ond un eiliad arall gyda hi, byddwn i wrth fy modd” meddai’n dyner. “Doedden ni ddim yn angylion, roedden ni’n dadlau fel unrhyw un arall. Ond cawsom 70 mlynedd gyda’n gilydd. Ac mae hynny’n rhywbeth na allwch chi roi pris arno.”

I Brian, mae bywyd Pat yn ei atgoffa y gall heriau arwain at fuddugoliaethau ac nad oedd anabledd erioed wedi ei diffinio.

Hoffech chi glywed Brian yn adrodd ei stori ef a Pat yn ei eiriau ei hun?

Gwyliwch y fideo llawn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol – ar gael nawr ar Facebook, Instagram a TikTok.