Fy Trivallis i

Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Rachel Rowlands i’w rôl fel ein Cyfarwyddwr Tai Cymunedol newydd

17 June 2025

Mae Rachel yn dod â llawer iawn o brofiad ac angerdd i'r rôl.

Pleser yw cyhoeddi y bydd Rachel Rowlands yn ymuno â Trivallis fel ein Cyfarwyddwr Tai Cymunedol newydd!

Mae Rachel yn dod â llawer iawn o brofiad ac angerdd i’r rôl. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg, lle mae hi wedi bod yn weithgar ers bron i 20 mlynedd. Mae ei gyrfa ym maes tai a chymorth cymunedol yn rhychwantu tri degawd a mwy, gan ddechrau ei thaith gyda Chyngor Dinas Caerdydd ar ddechrau’r 90au. Ers hynny, mae hi wedi chwarae rôl flaenllaw ym maes Gofal a Thrwsio Cymru, Tai Cymunedol Cynon Taf, ac yn fwy diweddar fel rhan o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol.

Meddai Keiron Montague, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymunedau; “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei chroesawu i Trivallis, ac yn hyderus y bydd ei harweinyddiaeth yn ein helpu i barhau i dyfu a chryfhau ein gwaith ym maes tai cymunedol.”

Mae Rachel yn adnabyddus am adeiladu partneriaethau cryf a chyflawni prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Enghraifft wych yw Cynon Linc – cyn-ganolfan ddydd sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor, y gwnaeth Rachel helpu i’w thrawsnewid yn ganolfan gymunedol ffyniannus gyda mannau ar gyfer gwasanaethau iechyd, bwyd, chwarae, cefnogaeth a chysylltu. Mae’n enghraifft wych o’i dull o roi pobl yn gyntaf a’i ffydd yng ngrym cymuned.

Ar hyn o bryd mae Rachel yn gweithio gweddill ei chyfnod rhybudd a bydd yn ymuno â ni cyn bo hir.

Croeso i’r tîm, Rachel!