Fy Trivallis i

Roeddwn i wedi cael llond bol o riportio…ac yna digwyddodd hyn!

24 March 2026

Dyma un enghraifft o sut y gwnaeth gwybodaeth gan denantiaid helpu i sicrhau newid go iawn.

Pam mae parhau i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein helpu i gasglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i weithredu a chadw cymunedau’n ddiogel.

Pan mae rhywun yn rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, weithiau gall deimlo fel nad oes unrhyw beth yn digwydd. Ac rydyn ni’n deall pam y gall hynny deimlo’n rhwystredig.

Ond y tu ôl i’r llenni, mae llawer o waith gofalus yn digwydd i amddiffyn trigolion, casglu tystiolaeth a gwneud yn siŵr y bydd unrhyw gamau a gymerir yn dal eu tir yn y llys. Gall achosion gymryd amser, ond mae pob adroddiad yn chwarae rhan bwysig wrth adeiladu’r dystiolaeth sydd ei hangen i wneud cymunedau yn fwy diogel.

Dyma un enghraifft o sut y gwnaeth gwybodaeth gan denantiaid helpu i sicrhau newid go iawn.

Am fisoedd, roedd tenantiaid yn un o’n cymdogaethau yn byw gydag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus a cham-drin domestig a oedd i gyd yn gysylltiedig ag un cyfeiriad.

Roedd cymdogion yn dweud wrthym ni eu bod yn teimlo’n bryderus iawn am y sefyllfa. Roedd pethau’n digwydd yn rheolaidd, yr heddlu yn cael eu galw allan ac aflonyddwch yn llifo allan i’r stryd. I’r trigolion gerllaw, nid dim ond un broblem oedd hi. Roedd yn rhywbeth yr oedd rhaid iddyn nhw feddwl amdano bob dydd.

Roedden nhw’n rhoi gwybod i ni drwy’r amser am yr hyn oedd yn digwydd. Fe wnaethon nhw barhau i siarad â ni. Ac fe helpodd y wybodaeth honno ni i adeiladu darlun clir o’r sefyllfa yr oedd y gymuned yn delio â hi.

Dechreuodd Tîm Diogelwch Cymunedol Trivallis weithio gyda Heddlu De Cymru a gwasanaethau diogelu yn gynnar. Cynigiwyd cymorth i’r rhai a oedd wedi’u heffeithio, gan gynnwys camau ymarferol i helpu cymdogion i deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi, a gwnaed atgyfeiriadau at asiantaethau arbenigol.

Fe wnaethon ni hefyd geisio ymgysylltu â’r tenant a oedd yn gyfrifol a chynnig cymorth trwy atgyfeiriadau ein Tîm Diogelwch Cymunedol i’n Tîm Atal ac Ymyrryd yn Fuan SAFE i helpu i wella eu hymddygiad.

Yn anffodus, ni dderbyniwyd y cynnig i helpu.

Proses gyson cam wrth gam

Mae achosion cymhleth fel y rhain yn cymryd amser ac mae’n rhaid eu trin yn ofalus.

Dros naw mis, casglodd y Tîm Diogelwch Cymunedol dystiolaeth, siaradodd yn rheolaidd â thenantiaid a thrigolion, gweithiodd yn agos gyda Heddlu De Cymru a pharatoi camau cyfreithiol. Roedd yn rhaid gwneud pob cam yn iawn er mwyn amddiffyn y bobl dan sylw a gwneud yn siŵr y byddai unrhyw weithred yn dal ei thir yn y llys.

Cafodd gwaharddeb sifil ei sicrhau i gyfyngu ar ymddygiad y tenant a’i atal rhag mynychu eiddo cyfagos a dychryn cymdogion a oedd mewn perygl. Roedd hyn yn cynnwys pŵer i arestio pe bai’r gorchymyn yn cael ei dorri.

Cafwyd sawl gwrandawiad llys. Torrwyd y waharddeb sifil sawl gwaith. Gwnaed arestiadau. Cafodd rhai gwrandawiadau eu gohirio pan fethodd y tenant â mynychu.

Yn dilyn torri un gorchymyn llys ar ôl y llall, yn y pen draw cafodd yr unigolyn ei ddedfrydu i amser yng Ngharchar Caerdydd. Mae’r waharddeb yn parhau i fod mewn grym er mwyn darparu amddiffyniad parhaus i’r unigolion dan sylw a’r gymuned ehangach.

Ar yr un pryd, daethpwyd â’r achos at yr Uwch Reolwyr yn Trivallis er mwyn trafod a ddylid cymryd camau cyfreithiol i ddod â’r denantiaeth i ben. Gwnaed cais meddiant a gafodd ei gymeradwyo gan y Barnwr. Ni wnaeth y tenant adael ar y dyddiad a osodwyd gan y llysoedd a phenderfynwyd wedyn mai’r penderfyniad gorau fyddai cael gwarant troi allan fel y gallai’r cartref gael ei wneud yn ddiogel i’r rhai dan sylw a’r gymuned ehangach.

Pan fydd y troi allan yn mynd yn ei flaen, bydd yn cynnwys beilïaid, saer cloeon, peirianwyr a swyddogion heddlu i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb gerllaw.

Yn y cefndir, cymerodd hyn oll gryn dipyn o amser a llawer o gydlynu rhwng gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill.

Y gwahaniaeth a gafodd ei wneud gan denantiaid!

Ni ddaeth y canlyniad hwn o un weithred neu un diwrnod yn y llys.

Fe ddigwyddodd oherwydd bod tenantiaid yn parhau i ddod ymlaen.

Roedden nhw’n cofnodi digwyddiadau, yn siarad â swyddogion. Roedden nhw’n cefnogi ei gilydd. Fe wnaeth y cysondeb hwnnw roi’r dystiolaeth yr oedd ei hangen arnom i weithredu ac fe helpodd i amddiffyn eraill yn y gymuned.

Mae’n cymryd amynedd, ac mae’n cymryd pobl sy’n barod i godi llais.

Pan fo rhywbeth o’i le, rhowch wybod i ni

Os ydych chi’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n teimlo’n anniogel yn y lle rydych chi’n byw ynddo, gofynnwn i chi ddweud wrthym ni.

Byddwn yn edrych ar bob adroddiad, yn cynnig cymorth lle mae ei angen ac yn cymryd camau pellach pan fo angen. Os ydyn ni’n cael gwybod yn gynnar, gallwn ddechrau gweithio gyda chi’n syth.