Fy Trivallis i

Mae tryloywder yn bwysig. Dyma sut rydyn ni’n defnyddio cwcis i gefnogi’ch taith gyda Trivallis.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i helpu ein gwefan i weithio’n effeithlon ac er mwyn gwella’ch profiad. Mae cwcis yn caniatáu i ni gofio eich dewisiadau, deall sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio a darparu cynnwys perthnasol.

I ddysgu mwy am sut rydyn ni’n casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.

I wybod mwy am sut i reoli a dileu cwcis, ewch i wefan ICO am arweiniad pellach.

 Beth yw cwcis a pham rydyn ni’n eu defnyddio

Ffeiliau testun bach sy’n cael eu storio ar eich dyfais pan fyddwch chi’n defnyddio gwefan yw cwcis. Maen nhw’n ein helpu ni gyda’r canlynol:

  • Gwella ein gwasanaethau trwy gofio eich dewisiadau
  • Eich atal rhag gorfod aildeipio gwybodaeth sawl gwaith
  • Eich cadw wedi mewngofnodi ar draws tudalennau
  • Mesur faint o bobl sy’n defnyddio ein gwefan a sut maen nhw’n rhyngweithio â hi
  • Gwneud eich profiad yn fwy esmwyth a phersonol

Rhestr cwcis

Gall cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan fod yn rhai parti cyntaf (wedi’u gosod gan Trivallis) neu drydydd parti (wedi’u gosod gan wasanaethau allanol rydyn ni’n eu defnyddio). Isod mae dadansoddiad o’r mathau o gwcis rydyn ni’n eu defnyddio:

Cwcis angenrheidiol

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i’r wefan weithredu’n iawn. Maen nhw’n galluogi nodweddion craidd fel diogelwch, rheoli rhwydwaith a hygyrchedd.

Cwci Parth  Diben Rhychwant Oes
rc::a google.com Mae’r cwci hwn wedi’i osod gan wasanaeth recaptcha Google i adnabod botiau er mwyn amddiffyn y wefan rhag ymosodiadau sbam maleisus. Byth
rc::c google.com Mae’r cwci hwn wedi’i osod gan wasanaeth recaptcha Google i adnabod botiau er mwyn amddiffyn y wefan rhag ymosodiadau sbam maleisus. Sesiwn
wpEmojiSettingsSupports trivallis.co.uk Mae WordPress yn gosod y cwci hwn pan fydd defnyddiwr yn rhyngweithio ag emojis ar wefan WordPress. Mae’n helpu i benderfynu a all porwr y defnyddiwr arddangos emojis yn iawn. Sesiwn
cookieyes-consent trivallis.co.uk Storio dewisiadau cydsyniad cwcis y defnyddiwr i’w parchu ar ymweliadau yn y dyfodol. 1 flwyddyn

 Cwcis perfformiad

Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’n gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth yn ddienw.

Cwci Parth  Diben Rhychwant Oes
_ga_* .trivallis.co.uk Mae Google Analytics yn gosod y cwci hwn i storio a chyfrif golygfeydd tudalen. 1 flwyddyn 1 mis 4 diwrnod
_ga .trivallis.co.uk Mae’r cwci _ga, a ddefnyddir gan Google Analytics, yn olrhain data ymwelwyr a defnydd dienw ac yn neilltuo ID ar hap i adnabod defnyddwyr unigryw. 1 flwyddyn 1 mis 4 diwrnod

Cwcis swyddogaethol

Mae’r cwcis hyn yn helpu i wella nodweddion swyddogaethol a phersonoli, megis cofio eich dewisiadau.

Cwci Parth  Diben Rhychwant Oes
is_below_1200px trivallis.co.uk Storio statws lled sgrin er mwyn addasu’r gosodiad neu’r grid yn unol â hynny. Sesiwn
lastExternalReferrer trivallis.co.uk Yn cofnodi’r URL allanol diwethaf y daeth defnyddiwr ohono, gan helpu i nodi sut y cyrhaeddon nhw’r wefan. Byth
lastExternalReferrerTime trivallis.co.uk Yn cofnodi pryd y cyrhaeddodd defnyddiwr ddiwethaf o wefan allanol at ddibenion hysbysebu a phriodoli. Byth
topicsLastReferenceTime trivallis.co.uk Yn cofnodi pryd y gwiriodd y porwr bynciau diddordeb ddiwethaf ar gyfer hysbysebu wedi’i bersonoli trwy Meta Pixel. Byth

 Cwcis hysbysebu

Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i gyflwyno hysbysebion perthnasol ac olrhain perfformiad ymgyrch.

Cwci Parth  Diben Rhychwant Oes
_fbp .trivallis.co.uk Olrhain hysbysebion Facebook. 3 mis

 

*Mae’r cwcis sy’n cael eu rhestru wedi’u nodi trwy brofion ar draws sawl tudalen o’r wefan hon. Felly, ni fydd pob cwci yn ymddangos ar bob tudalen. Gall presenoldeb cwcis penodol amrywio yn dibynnu ar gynnwys y dudalen, y gwasanaethau sydd wedi’u hymwreiddio neu ryngweithiadau defnyddwyr. Efallai y bydd rhai tudalennau yn cynnwys cwcis ychwanegol nad ydynt yn rhan o’r crynodeb hwn, yn enwedig rhai sy’n ymwneud ag integreiddio trydydd parti neu nodweddion dynamig.

 Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau allanol. Nid ydym yn rheoli’r safleoedd hyn nac yn gwneud unrhyw sylwadau am eu cynnwys na’u harferion preifatrwydd. Rydyn ni’n eich annog i ddarllen eu polisïau cwcis a phreifatrwydd.

 Rheoli cwcis

Gallwch reoli neu analluogi cwcis trwy osodiadau eich porwr unrhyw bryd trwy glicio yma. Gall analluogi rhai cwcis effeithio ar ymarferoldeb y wefan.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Polisi Cwcis neu sut rydyn ni’n defnyddio cwcis, mae croeso i chi gysylltu â ni:

  • E-bost: dataprotection@trivallis.co.uk;
  • Ffoniwch ni ar 03000 030 888;
  • Ysgrifennwch at: Swyddog Diogelu Data, Trivallis, Tŷ Pennant, Stryd y Felin, Pontypridd, CF37 2SW.