Fy Trivallis i

Preswylwyr Cae Fardre yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

18 November 2024

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, rydyn ni’n dathlu enghraifft bwerus o waith tîm cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghae Fardre

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, rydyn ni’n dathlu enghraifft bwerus o waith tîm cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghae Fardre, yn ne Cymru. Diolch i bartneriaeth agos rhwng Trivallis, Heddlu De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT a thrigolion lleol, mae Cae Fardre yn dod yn lle mwy diogel a chroesawgar i bawb sy’n byw yno.

Cymunedau Mwy Diogel trwy Weithio Gyda’n Gilydd

Mae lansiad diweddar Crimestoppers yng Nghae Fardre, ynghyd â hyb cymunedol newydd, wedi rhoi ffordd ddiogel a chyfrinachol i drigolion roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion eraill. Mae’r fenter hon yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Trivallis, Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol RhCT i helpu pobl leol i deimlo’n hyderus wrth roi gwybod am drosedd—mawr neu fach—a gwella bywydau pawb.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of eleven people, including individuals in various uniforms and formal attire, stand on stage at an awards event. One individual holds a certificate. A large backdrop displays "Team HDC Team SWP Awards 2024" with decorative elements.

Tîm partneriaeth Cae Fardre yn mynychu rownd derfynol gwobrau Tîm Heddlu De Cymru yn y categori Gwobr Datrys Problemau mewn Partneriaeth.

“Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn teimlo’n ansicr ynglŷn â rhoi gwybod am droseddau neu dydyn nhw ddim yn gwybod ble i droi,” meddai Lianne Bulford, Rheolwr Gwasanaethau Cymdogaeth yn Trivallis. “Gyda Crimestoppers a’r hwb cymunedol newydd, mae gan bobl ffordd ddiogel a hawdd o siarad. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu gofod lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.”

Amlygodd Arolygydd yr Heddlu, Leigh Parfitt, bwysigrwydd rhoi’r “offer sydd eu hangen ar breswylwyr i wneud gwahaniaeth”. Ychwanegodd fod adrodd dienw wedi bod yn gam allweddol tuag at feithrin ymddiriedaeth a hyder cymunedol. Ers lansio’r bartneriaeth, mae achosion o roi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi gostwng 63%, ac mae troseddau cyffredinol wedi gostwng 20% mewn blwyddyn yn unig.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of six people stand together outdoors on a sunny day. They are smiling near a grass area, with houses and parked cars in the background. A blue sign is visible behind them.

Preswylwyr lleol: Llygaid a Chlustiau Newid

Mae’r llwyddiant yng Nghae Faerdre yn dangos grym aelodau’r gymuned a sut gallan nhw  helpu i gadw eu cymdogaeth yn ddiogel. Mae preswylwyr yn gweld beth sy’n digwydd bob dydd ac erbyn hyn mae ganddyn nhw ffordd syml o roi gwybod am faterion heb ofn. Mae’r mewnwelediad hwn ar lawr gwlad yn amhrisiadwy, ac yn helpu Trivallis a Heddlu De Cymru i ymateb yn gyflym i broblemau a chadw’r momentwm i fynd.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo y gallan nhw roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Trivallis, Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol RhCT yn gweithio i wneud y canlynol:

  • Helpu pobl i ddeall sut i roi gwybod am faterion yn gyflym ac yn hawdd.
  • Gwneud yr hyb cymunedol yn lle diogel a chroesawgar i unrhyw un sydd angen cymorth neu sydd eisiau cysylltu.
  • Dangos y gwahaniaeth y mae rhoi gwybod am achosion yn ei wneud, gan ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan.

Mae Rheolwr Cymdogaeth Cae Fardre, Gavin Key a’r Swyddog Diogelwch Cymunedol, Jessica Barrow, wedi bod yn aelodau allweddol o’r gwaith i helpu’r gymuned i ymroi i’r dull hwn gan hefyd helpu i gydlynu’r gwaith partneriaeth lleol.

Ydych chi eisiau siarad â rhywun am ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Rheolwr Cymdogaeth a’ch Swyddog Diogelwch Cymunedol trwy chwilio am eich cod post ar dudalennau ein cymdogaethau yma.

Neu ffoniwch ni ar 03000 030 888 a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn.

Edrych Ymlaen: Cadw Cae Fardre yn Ddiogel

Meddai Lianne Bulford, “Rydyn ni’n cydnabod bod pob math o bethau wrth wraidd  ymddygiad gwrthgymdeithasol, a thrwy weithio’n agos gyda’r gymuned a phartneriaid lleol eraill, gallwn fynd i’r afael â’r materion ehangach hyn gyda’n gilydd. Mae mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol sy’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein helpu i gyflawni newid parhaol. Rydyn ni eisoes wedi gweld canlyniadau gwych gyda’r dull hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y cynnydd hwnnw.”

Trivallis Housing Landlord Wales An outdoor scene showing a set of four empty, open garages with wear and broken doors. A truck is parked to the right. Trees and cloudy sky are in the background. Debris is scattered on the ground.

Roedd y garejis yn cynnig canolfan ar gyfer gangiau cyfundrefnol ddiogel ynddo

Trivallis Housing Landlord Wales Driveway entrance with a paved section on the left and a tarmac surface. Brick wall and several small storage units are visible. Residential buildings are in the background, with trees and a wooden fence lining the area. Cloudy sky overhead.

Nawr mae man agored hardd i bobl deimlo’n

Wrth edrych ymlaen, mae Trivallis, Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol RhCT yn bwriadu ehangu ar y camau cadarnhaol hyn. Gyda chefnogaeth barhaus gan bartneriaid lleol, maen nhw’n creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc, yn gwella trefniadau gwyliadwriaeth cymdogaethau, ac yn cyflwyno mwy o weithgareddau cymunedol sydd wedi’u cynllunio i gryfhau’r cwlwm ymhlith preswylwyr. Mae digwyddiadau ymgysylltu wedi’u trefnu i sicrhau bod gan bawb lais wrth lunio’r dyfodol, gan greu partneriaeth wirioneddol rhwng preswylwyr a gwasanaethau lleol i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella ansawdd bywyd.

Trivallis Housing Landlord Wales A group of six people stand on a stage. One person holds a plaque. They are in front of a screen displaying the words "Church Village." Multicolored bunting decorates the front of the stage.

Ymunwch â ni i adeiladu cymunedau mwy diogel

Rydyn ni’n gwahodd holl drigolion Trivallis i ymuno â ni i adeiladu cymdogaethau hapusach a mwy diogel. P’un ai drwy roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu fynychu digwyddiadau cymunedol, neu rannu’ch syniadau ar wella diogelwch lleol, mae pob cam gweithredu yn gwneud gwahaniaeth. Gyda’n gilydd, gallwn greu man lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gartrefol.

I ddysgu mwy neu i gymryd rhan, estynnwch allan i Trivallis neu galwch heibio canolfan gymunedol Cae Fardre. Mae’ch llais yn bwysig—gyda’n gilydd, rydyn ni’n sicrhau newid parhaol!

 

Trivallis Housing Landlord Wales Two people are sitting at a table during a social event. One man with a lanyard smiles, while the other wears a shirt with "Trivallis" on the back. Papers and a cup are on the table, and others are interacting in the background.Dwi eisiau cymryd rhan!