Fy Trivallis i

Plannu hedyn o ysbrydoliaeth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

4 July 2025

Y Swyddog Tai Cymunedol Lisa sy’n rhannu'r hyn y mae hi wedi bod yn ei wneud yn ystod  yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Y Swyddog Tai Cymunedol Lisa sy’n rhannu’r hyn y mae hi wedi bod yn ei wneud yn ystod  yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Yn ystod  yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol hon, rydyn ni’n gwneud pethau ychydig yn wahanol ym Mryn Olwg drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dod â phobl at ei gilydd yn hytrach na’r hyn sy’n achosi problemau.

Mewn gweithdy diweddar, buom yn siarad am sut mae’r amgylchedd lleol yn gwneud cyfraniad mawr at greu cymdogaethau mwy diogel a hapus. Mae Bryn Olwg yn enghraifft wych o hyn.

Rydyn ni wedi sylwi ar y balchder mawr sydd gan denantiaid yn eu gerddi cymunedol. Mae pob gofod yn groesawgar ac yn lliwgar yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae’r gerddi yma’n fwy na dim ond gwledd i’r llygaid. Maen nhw’n ffordd i bobl gysylltu, dangos gofal, a theimlo’n rhan o rywbeth.

I ddathlu hyn, gwahoddwyd Terry o’r Men’s Shed lleol i ymuno â’r Swyddog Tai Cymunedol a’r Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) lleol am dro bach o amgylch gerddi Bryn Olwg. Cafwyd sgyrsiau gyda thenantiaid am sut y gallen nhw gymryd rhan yn y Men’s Shed – grŵp cyfeillgar sy’n croesawu pawb ac yn annog pobl i rannu sgiliau, gwneud ffrindiau newydd a chefnogi ei gilydd.

Gwahoddwyd tenantiaid hefyd i ymweld â gweithdy Men’s Shed gerllaw lle gallan nhw ddysgu sgiliau newydd neu adeiladu rhywbeth ar gyfer yr ardd.

Ac mae yna fwy. Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau lleol i adeiladu ar yr hyn y mae’r tenantiaid eisoes yn ei fwynhau, fel eu cariad at arddio a’u hanifeiliaid anwes. Mae rhagor o brosiectau ar y gweill felly mae llawer mwy i ddod ar ôl y dechrau gwych hwn.

Trwy ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl a gweithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i adeiladu cymuned gryfach, fwy cadarnhaol.

Gyda’n gilydd, gallwn dyfu mwy na dim ond eu gerddi. Gall cysylltiadau a charedigrwydd hefyd ddwyn ffrwyth gan greu lle hapusach i fyw.