Fy Trivallis i

Pennod newydd yng Ngerddi’r Maes Bach

3 October 2025

Mae teuluoedd wedi dechrau symud i'w cartrefi newydd sbon yng Ngerddi'r Maes Bach, Aberdâr, gan nodi dechrau pennod newydd i'r gymuned.

Mae teuluoedd wedi dechrau symud i’w cartrefi newydd sbon yng Ngerddi’r Maes Bach, Aberdâr, gan nodi dechrau pennod newydd i’r gymuned. Cafodd y 15 cartref pedair ystafell wely eu prynu gan Trivallis y llynedd ar ôl i’r datblygwr gwreiddiol fynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Ers hynny, mae’r cartrefi wedi’u cwblhau i fodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) gyda chefnogaeth Prosiect PEC.

Cafodd tenantiaid eu hallweddi ym mis Medi, a phob un â’u stori, eu gobeithion a’u cynlluniau eu hunain ar gyfer y dyfodol.

I Jasan a Laura, roedd y symud yn un hirddisgwyliedig. Ar ôl byw yn Hirwaun am 15 mlynedd, roedd angen cartref arnyn nhw a oedd yn gweddu’n well i anghenion eu merch. Pan nad oedd modd addasu eu heiddo blaenorol, fe ddechreuon nhw chwilio am rywbeth newydd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r chwilio hwnnw wedi dwyn ffrwyth a’u harwain yma, i gartref pedair ystafell wely lle gall y teulu cyfan fod gyda’i gilydd o’r diwedd.

“Mae symud wedi rhoi cyfle i ni gymoni a dechrau o’r newydd,” meddai Laura. “Roedden ni wedi byw yn Hirwaun ers amser maith ac wedi gweld y plant yn tyfu o blant bach i oedolion ifanc. Nawr mae gennym ni le i wneud mwy gyda’n gilydd fel teulu.”

Mae’r newid hefyd wedi ailuno’r teulu. Roedd eu mab hynaf wedi bod yn byw gyda’i fam-gu a’i dad-cu drws nesaf, ond nawr mae ganddo le i symud yn ôl i mewn a rhannu bywyd teuluol o dan yr un to.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn dod â llawenydd i’n bywydau. Mae’n teimlo fel cartref yn barod,” ychwanegodd Laura.

I Jasan, mae’n cyffroi wrth feddwl am yr hyn sydd i ddod. “Rydw i wir yn casáu newid, dydw i ddim yn hoffi e. Ond ymhen blwyddyn, rwy’n credu y byddwn ni wedi setlo. Erbyn y Nadolig, rydw i eisiau dweud y bydd gennym ni’r teimlad arbennig yna.”

Yn gwirioni ar addurno a gydag ymdeimlad o optimistiaeth, mae Jasan a Laura eisoes yn dychmygu sut y bydd eu cartref newydd yn dod yn ei flaen ac yn edrych ymlaen at yr atgofion niferus y byddan nhw’n eu creu ynddo.

Soniodd Natalie, a symudodd i mewn gyda’i theulu o bobl ifanc yn eu harddegau, am y cyfleoedd y bydd y cartref newydd yn eu cynnig iddyn nhw. “Mae symud yn golygu’r byd i ni. Mae’n rhoi lle i ’mhlant i dyfu ac yn agor cymaint o ddrysau ar gyfer y dyfodol.”

I Gemma, sydd â theulu mawr gyda phlant o wahanol oedrannau, gan gynnwys dau o dan ddwy oed, roedd symud yn hanfodol. Esboniodd, “Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni yn barod,” meddai. “Mae gan fy mhlant i gyd eu hystafelloedd eu hunain erbyn hyn, ac o’r diwedd mae gennym ni’r lle sydd ei angen arnom ni i fod gyda’n gilydd fel teulu.

Mae pob drws ffrynt bellach yn agor i arferion newydd, chwerthin a digon o le i dyfu.