Fy Trivallis i

Pennod newydd ym Meisgyn: O dŷ’r ysgol i dai cymunedol

16 December 2024

Mae gwaith wedi'i gwblhau ar hen Ysgol Meisgyn gan ei thrawsnewid yn 11 o gartrefi fforddiadwy i'r gymuned.

Mae gwaith wedi’i gwblhau ar hen Ysgol Meisgyn gan ei thrawsnewid yn 11 o gartrefi fforddiadwy i’r gymuned. Bu Trivallis, yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Cyf. i gyflawni’r ailddatblygiad hwn. Bydd yr adeilad hanesyddol yn croesawu tenantiaid cyn bo hir, gyda’r trigolion cyntaf yn dechrau symud i mewn ar 16 Rhagfyr, yn dilyn y trosglwyddiad swyddogol ar 11 Rhagfyr.

Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i’r Grant Tai Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru.

Mae Sarah Davies, Rheolwraig Datblygu Trivallis, wrth ei bodd: “Rydyn ni’n falch iawn o weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd y cartrefi hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sydd angen tai fforddiadwy ym Meisgyn. Mae’n brofiad arbennig gweld y safle hanesyddol hwn yn barod i groesawu pobl eto. Hoffwn ddiolch i Cartrefi Cyf a’r tîm dylunio am ddarparu cynllun o’r radd flaenaf”

Trivallis Housing Landlord Wales A modern two-story building with a combination of cream and dark gray exterior. It has vertical windows and a sloping roof. The surrounding area features a paved road and scattered autumn leaves, with additional buildings and trees in the background.

Fe wnaeth Trivallis brynu’r adeilad ym mis Tachwedd 2019 cyn dylunio’r ailddatblygiad yn ofalus i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a chadw cymeriad unigryw’r adeilad ar yr un pryd.

Meddai Neil Phillips, Rheolwr Adeiladu Trivallis: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na thai yn unig; mae’n anrhydeddu hanes Meisgyn gan ddiwallu anghenion heddiw. Trwy gadw cymeriad yr ysgol, rydyn ni wedi creu rhywle sy’n cyfuno’r gorffennol a’r dyfodol yn hyfryd.”

Mae’r ysgol wedi’i throsi’n 10 fflat un ystafell wely ac un tŷ dwy ystafell wely, gan fynd i’r afael â’r gwir angen yn lleol am gartrefi un ystafell wely. Er mwyn lleddfu pryderon parcio, mae 11 o leoedd penodol wedi’u hychwanegu yng nghefn y safle.

Trivallis Housing Landlord Wales Five people standing in front of a building. Two are wearing high-visibility jackets, and one is wearing a white hard hat. A woman in the center is wearing a black coat. The background shows a stone wall and window.

Meddai Steven John, Cyfarwyddwr Cartrefi Cyf: “Bu’n bleser gweithio gyda Trivallis ar y prosiect gwerth chweil hwn. Mae pwrpas newydd i hen adeilad yr ysgol erbyn hyn, ac mae’n hyfryd ei gweld yn cael ei hadfer ac yn barod i helpu’r gymuned.”

Mae’r ailddatblygiad hwn yn dilyn gwaith llwyddiannus Trivallis yn Llantrisant, lle cafodd ysgol segur ei throi’n 18 o gartrefi newydd. Mae prosiect Meisgyn yn gam arall yng nghenhadaeth Trivallis i greu cartrefi fforddiadwy sy’n hybu cymunedau.