Fy Trivallis i

Beth rydym ni’n ei wneud

Rydym ni’n canolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy a gwasanaethau cymorth tai, ac rydym ni’n gweithio’n galed i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael er mwyn bodloni anghenion am dai. Rydym ni’n gyflogwr mawr ac yn cefnogi contractwyr lleol i gyflawni ein gwaith.

Yn ogystal â’n gweithgareddau craidd, rydym ni’n anelu at fwy o’r canlynol:

 

Datblygiad cymunedol

Rydym ni am hybu lles cymunedol trwy ddefnyddio dull datblygiad cymunedol yn ein holl waith. Byddwn ni’n manteisio ar gryfderau a sgiliau presennol mewn cymunedau, gan bartneru â sefydliadau cymunedol, gwirfoddolwyr a gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn ni’n helpu cymunedau i gymryd rheolaeth ar eu dyfodol eu hunain. Hefyd, byddwn yn cynorthwyo â chreu sefydliadau cymunedol newydd a dwyn sefydliadau ynghyd i feithrin lles cymunedol.

Adfywio cymunedol

Byddwn ni’n defnyddio ein cryfder ariannol a’n partneriaethau dibynadwy i ddod â buddsoddiadau hirdymor i’n cymunedau. Trwy ddefnyddio ein rolau fel cyflogwr, darparwr hyfforddiant, prynwr, perchennog eiddo a buddsoddwr, ein nod yw gwneud y mwyaf o’r buddion i’n cymunedau a sicrhau bod buddsoddiadau’n aros yn ein cymunedau.

Lles unigol

Credwn mewn sicrhau lles pawb yn y gymuned. Wrth feddwl am les unigol, rydym yn gwybod bod pawb yn wahanol, gyda’u cryfderau eu hunain a’u profiadau eu hunain yn y gorffennol. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi unigolion a theuluoedd, gan ddod â mwy o adnoddau i gymunedau. Ein nod yw darparu gwasanaethau di-dor i denantiaid trwy fabwysiadu dull tîm o gwmpas y tenant.

Yr egwyddorion rydym ni’n eu dilyn

Mae gennym bum egwyddor allweddol ac rydym ni’n cadw’r rhain mewn cof drwy’r amser:

1. Bod yn gyflogwr gwych

Rydym ni’n ymdrechu i fod yn gyflogwr o ddewis, yn cynnig cyfleoedd rhagorol, gweithle cefnogol ac amodau teg i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Rydym ni’n ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol a darparu cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr.

2. Cynaliadwyedd

Rydym ni’n gwneud penderfyniadau sy’n cefnogi sefydlogrwydd hirdymor ein sefydliad ac rydym ni’n gweithio i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd. Rydym ni’n gweithio gyda phreswylwyr i leihau effaith y newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau.

3. Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae diwylliant ein cwmni yn gynhwysol ac yn groesawgar. Rydym ni’n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a thegwch wrth wneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau, recriwtio a rheoli.

4. Mynd i’r afael â thlodi

Rydym ni’n cydnabod effaith tlodi yn ein cymunedau ac rydym ni’n gweithio’n weithgar i’w leihau trwy ymdrech tîm gyda phartneriaid a chymunedau.

5. Dysgu

Rydym ni’n rhoi pwys ar ddysgu parhaus, yn annog gweithwyr i gaffael gwybodaeth a sgiliau newydd, ac yn hyrwyddo diwylliant o fod yn agored, cydweithredu ac arloesi. Rydym ni’n dysgu o’n profiadau ein hunain, ein cymunedau ac yn ceisio syniadau da o fannau eraill i wella ein sefydliad.

Ers 2024, rydym wedi bod ar lwybr o newid, gan ymgysylltu â staff, tenantiaid, a’n Bwrdd i ailddiffinio ein cenhadaeth a’n gwerthoedd. Mae’r strategaethau hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r trafodaethau hynny ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gyflawni ein nodau a byw ein gwerthoedd.

Cymryd rhan

Dewch yn denant cysylltiedig i ddweud eich dweud am ein cynlluniau at y dyfodol

Dysgwch fwy am ymuno â Tenantiaid Unedig

Cymryd rhan
page image