Fy Trivallis i

Ombwdsmon yn canfod methiant gwasanaeth gan Trivallis yn dilyn cwyn gan denant yn Aberpennar

6 November 2025

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn a chanfod camweinyddiaeth/methiant gwasanaeth gan Trivallis

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn a chanfod camweinyddiaeth/methiant gwasanaeth gan Trivallis ac wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau eu hymchwiliad at Trivallis. Roedd y gŵyn yn ymwneud â sut ymatebodd Trivallis i adroddiadau am leithder a llwydni yn un o’i eiddo.

Bydd copi o’r adroddiad ar gael ar wefan Trivallis a bydd ar gael i’r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Ty Pennant, Mill Street, Pontypridd, CF37 2SW am gyfnod o 3 wythnos o 6 Tachwedd 2025 a chaiff unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny gymryd copi o’r adroddiad hwn neu nodi dyfyniadau ohono. Bydd llungopïau o’r adroddiad neu rannau ohono yn cael eu gwneud am 6 ceiniog y daflen.

Dyddiad: 6 Tachwedd 2025

Ein hymateb

Mae Trivallis wedi derbyn canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn llawn ac wedi ymddiheuro o waelod calon i’r tenant a ddioddefodd leithder a llwydni ac atgyweiriadau heb eu datrys. Rydym ni’n gresynu’n fawr at y trallod a achoswyd ac rydym ni wedi cymryd cyfrifoldeb llawn, gan gynnwys ymweliadau personol gan ein Prif Weithredwr. Er bod y problemau llaith a llwydni yn gymhleth, rydym ni’n cydnabod methiannau amlwg yn ein hymateb ac ers hynny rydym ni wedi gwneud gwelliannau mawr, o adrodd problemau’n gyflymach a hyfforddiant arbenigol i staff, i dîm lleithder a llwydni pwrpasol a goruchwyliaeth gryfach. Rydym ni wedi ymrwymo i ddysgu, gwella, a sicrhau bod pob tenant yn derbyn y gwasanaeth diogel, effeithiol a pharchus y mae ganddo bob hawl i’w ddisgwyl.

Meddai’r Prif Weithredwr Duncan Forbes:

“Rydym ni’n difaru’n fawr y methiannau yn yr achosion hyn ac rydym ni wedi cymryd cyfrifoldeb llawn. Rydym ni wedi gwneud cynnydd go iawn, ond rydym ni’n gwybod bod mwy i’w wneud o hyd. Ein hymrwymiad yw gwrando, dysgu, a pharhau i wella, fel bod pob tenant yn derbyn y gwasanaeth mae’n ei haeddu.”