Fy Trivallis i

Newidiadau i oriau agor ein llinellau ffôn

17 March 2026

Rydyn ni’n gwneud newid bach i oriau agor ein llinellau ffôn i’n helpu i reoli’r galw yn well a pharhau…

Rydyn ni’n gwneud newid bach i oriau agor ein llinellau ffôn i’n helpu i reoli’r galw yn well a pharhau i wella’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i denantiaid.

O ddydd Mawrth 17 Mawrth, bydd ein llinellau ffôn yn gweithredu gwasanaeth brys yn unig rhwng 12pm a 4.30pm ar ddyddiau Mawrth ac Iau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd nifer llai o staff ar gael i ymdrin â galwadau brys. Bydd ein derbynfa yn parhau ar agor fel arfer.

Y tu allan i’r oriau hyn, bydd ein canolfan gyswllt yn parhau i ymdrin â phob ymholiad cyffredinol.

Os oes angen i chi gysylltu yn ystod y cyfnod argyfwng yn unig, does dim rhaid i chi aros a gallwch ddefnyddio eich cyfrif Fy Trivallis i wneud y canlynol:

· Diweddaru eich manylion personol

· Anfon ymholiad atom

· Rhoi gwybod am waith atgyweirio ac archebu slot i’ch apwyntiad

Defnyddio Fy Trivallis yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf yn amlaf o reoli eich cyfrif neu ofyn am wasanaeth ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Bydd y newidiadau hyn yn neilltuo amser i’n timau ar gyfer hyfforddiant a datblygu hefyd, gan ein helpu i wella’r gefnogaeth a ddarparwn.

Diolch am eich dealltwriaeth.