Fy Trivallis i

Mae Diwrnod Ystad Wych Fferm y Capel eich angen chi!

13 January 2025

Ddydd Iau 16 Ionawr, byddwn yn eich ardal yn ceisio dod â phawb ynghyd ar gyfer Diwrnod y ‘Great Estate’.

Ydych chi’n byw yn Fferm y Capel, Tonyrefail?

Ddydd Iau 16 Ionawr, byddwn yn eich ardal yn ceisio dod â phawb ynghyd ar gyfer Diwrnod y ‘Great Estate’. Ar y diwrnod, byddwn yn dathlu cyfraniadau gwych pob un ohonom, wrth i ni wneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Bydd Tîm Ystad Trivallis yn ymuno â Thimau Glanhau a Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf, i lanhau, gwaredu gwastraff, casglu sbwriel ac adfywio’r ardal; byddem hefyd wrth ein bodd yn gweld tenantiaid lleol yn cymryd rhan ac yn rhoi gwybod i ni sut yr hoffech chi wneud gwahaniaeth.

Bydd timau eraill o Trivallis yn ymuno â ni hefyd. Dyma gyfle heb ei ail i ddod draw i siarad gyda nhw am unrhyw syniadau sydd gennych chi ac yr hoffech eu rhoi ar waith. Bydd cyfle hefyd i drafod pa gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch i wneud i hyn ddigwydd. Y nod yw cael pawb i gydweithio a gwneud Fferm y Capel yn lle gwych i fyw ynddo.

Rydyn ni wedi gweld canlyniadau anhygoel mewn cymdogaethau eraill lle mae preswylwyr wedi dod at ei gilydd i drawsnewid eu hystadau. Dyma’ch tro chi. Rydyn ni yma i’ch cefnogi—i roi dechrau arni, i gynnig cyngor, neu help llaw.

Mae Canolfan Gymunedol Fferm y Capel wedi agor ei drysau, er mwyn ein galluogi i allu gweithio oddi yno gydol y dydd. Os ydych chi yn y cyffiniau, galwch heibio i ddefnyddio’r ganolfan a chael sgwrs gyda ni.

Felly, rhowch nodyn yn eich calendrau ac ymunwch â ni ar 16 Ionawr – gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn yn Fferm y Capel.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Anfonwch neges atom ar Facebook neu e-bostiwch involvement@trivallis.co.uk.