Fy Trivallis i

Mae Braf a Chlyd yn ôl – ac mae Toasty ar grwydr!

19 November 2025

Mae ein hymgyrch Braf a Chlyd yn ôl am aeaf arall, ac yn rhannu awgrymiadau syml i’ch helpu i gadw…

Mae ein hymgyrch Braf a Chlyd yn ôl am aeaf arall, ac yn rhannu awgrymiadau syml i’ch helpu i gadw rheolaeth ar eich cartref a chreu lle clyd ac iach i chi’ch hun.

Eleni, rydyn ni am ddechrau pethau gyda rhywbeth hwyliog… cystadleuaeth ffotograffau lle gallech ennill taleb Love2Shop gwerth £25!

Chwiliwch am Toasty i ennill

Mae ein ffrind blewog Toasty wedi bod mas i rai o lefydd cyfarwydd Rhondda Cynon Taf. Gydol y gaeaf, byddwn yn rhannu llun ohono’n cuddio yn rhywle newydd – allwch chi ddyfalu ble mae e?

I gystadlu:
1️⃣  Rhowch eich ateb yn yr ardal Sylwadau
2️⃣  Anfonwch awgrym ar sut i gadw’n braf a chlyd yn seiliedig ar thema’r wythnos
3️⃣  Ewch ati i hoffi a rhannu’r neges hon
4️⃣  Dilynwch ni ar Instagram a TikTok

Mae gan bob wythnos thema wahanol, fel ‘Cartref clyd’, ‘Awyr iach’ ac ‘Arbed arian’ felly mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan.

Manylion llawn ac amodau a thelerau yma.

Cynllun Braf a Chlyd

Mae ein cartrefi yn rhan fawr o sut rydyn ni’n teimlo, ac mae eu cadw’n glyd, yn sych ac wedi’u hawyru’n dda yn helpu i amddiffyn ein hiechyd hefyd.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu syniadau syml, ymarferol ar:

  • Riportio lleithder a llwydni
  • Achosion cyffredin cyddwysiad
  • Sut i gael cymorth ariannol (os yw’n berthnasol)

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am anturiaethau diweddaraf Toasty, themâu wythnosol a chynghorion da ar sut i gadw’n gynnes ac yn iach y gaeaf hwn.