Fy Trivallis i

Hwb Cae Fardre yn dathlu blwyddyn o gymuned

3 September 2025

Mae'r mis hwn yn nodi blwyddyn ers i Hwb Cae Fardre agor ei ddrysau.

Hwb Cae Fardre yn dathlu blwyddyn o gymuned

Mae’r mis hwn yn nodi blwyddyn ers i Hwb Cae Fardre agor ei ddrysau. Sefydlwyd y grŵp dan arweiniad y gymuned i roi mynediad i deuluoedd a phobl ifanc at weithgareddau fforddiadwy a lle croesawgar i ymgysylltu. Mewn cwta ddeuddeg mis, mae’r Hwb wedi tyfu i fod yn ofod dibynadwy sy’n gwneud gwahaniaeth bob wythnos.

Trivallis Housing Landlord Wales A young child with face paint sits indoors, smiling and holding a large balloon shaped like a butterfly with white and purple sections. She is wearing a grey outfit with white polka dots.

Lle diogel a chroesawgar

Mae Hwb Cae Fardre ar agor bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener. Mewn dim o dro, mae wedi datblygu’n lle diogel lle mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. O weithgareddau hwyliog i bobl ifanc i gwrdd dros damaid i’w fwyta, mae’r Hwb yn parhau i adlewyrchu’r hyn y mae’r gymuned ei eisiau a’i angen.

Dywedodd Michelle, sy’n gwirfoddoli yn yr Hwb: “Mae’r Hwb wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae’n lle diogel lle gall teuluoedd ifanc deimlo’n gartrefol a chael eu cefnogi.”

Cymorth ymarferol o bwys

Mae’r Hwb yn fwy na dim ond gweithgareddau. Mae’r pantri bwyd wedi bod yn achubiaeth i lawer, gan gynnig eitemau bob dydd am brisiau is na manwerthwyr. Esboniodd un rhiant faint roedd hyn wedi’i olygu iddi yn ystod ei dyddiau cynnar gyda’i babi: “Roeddwn i newydd ddechrau defnyddio pecynnau bwyd babanod ar gyfer fy mab bach. Roedd gallu eu cael nhw o’r pantri yn hytrach na’r siopau yn help mawr i mi ar y pryd.”

Mae ‘Toasties Tuesdays’ a ‘Chip Butties Fridays’ hefyd wedi dod yn rhan o’r drefn wythnosol. Maen nhw’n gyfle i gymdogion rannu pryd o fwyd a mwynhau rhywfaint o gwmni heb boeni am y gost.

Trivallis Housing Landlord Wales A woman applies face paint to a girl wearing glasses and a red hoodie. Balloons, a coloring sheet, and a t-shirt with a fries graphic are visible in the background of a room.

Rise Strong yn gwneud gwahaniaeth
I brosiect Rise Strong, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i llunio i helpu plant a theuluoedd i ddysgu ac ymgysylltu, y mae’r diolch am lawer o dwf yr Hwb. Diolch i’r cyllid, roedd modd i’r Hwb gael gafael ar adnoddau ychwanegol i gynnal gweithgareddau fforddiadwy, cyflwyno teuluoedd i chwaraeon newydd a sefydlu sesiynau dysgu fel coginio a chrefftau.

Gallwch wylio’r fideo Cae Fadre Rise Strong ar YouTube.

Blwyddyn ymlaen ac edrych ymlaen

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Hwb Cae Fardre wedi dod yn llawer mwy nag adeilad. Mae’n lle i bobl gefnogi ei gilydd a rhannu profiadau.

Esboniodd Michelle: “Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gefnogi merch nad oedd ganddi unrhyw eitemau cartref ac  roedden ni’n gallu cael eitemau i’w helpu i setlo a theimlo’n gartrefol.”

Mae Michelle a’i gwirfoddolwyr gweithgar wedi cael effaith go iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ychwanegodd: “Rydyn ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer y gaeaf gyda bwyd poeth fel cawl, felly bydd gan bobl bob amser rywle clyd a chyfeillgar i ddod at ei gilydd.”

Wrth i’r Hwb ddathlu ei flwyddyn gyntaf, dim ond megis dechrau mae ei effaith. Gyda mwy o weithgareddau a chefnogaeth ar y gweill, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gae Fardre a’r bobl sy’n ei alw’n gartref.