Fy Trivallis i

Gwisgoedd ysgol ail-law mewn cyflwr da – sy’n garedig i’r boced

21 July 2025

Mae plant yn tyfu'n gyflym, a dydy gwisgoedd ysgol ddim bob amser yn para cyhyd ag y bydden ni’n ei hoffi. Ond mae yna ffordd synhwyrol, garedig a chyfeillgar i'r ddaear i gael yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn heb wario gormod: gwisgoedd ysgol ail-law mewn cyflwr da.

Gall paratoi ar gyfer blwyddyn ysgol newydd fod yn gyffrous ond gall hefyd fod yn fusnes drud.

Mae plant yn tyfu’n gyflym, a dydy gwisgoedd ysgol ddim bob amser yn para cyhyd ag y bydden ni’n ei hoffi. Ond mae yna ffordd synhwyrol, garedig a chyfeillgar i’r ddaear i gael yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn heb wario gormod: gwisgoedd ysgol ail-law mewn cyflwr da.

Dillad wedi’u gwneud i bara

Mae gwisgoedd ysgol wedi’u gwneud i bara. Hyd yn oed ar ôl i blentyn dyfu allan ohonyn nhw, mae’r rhan fwyaf yn dal i fod mewn cyflwr da. Mae hynny’n golygu y gallan nhw gael eu gwisgo eto gan rywun arall.

Mae gwisgo gwisgoedd ail-law mewn cyflwr da yn helpu’ch teulu i arbed arian ac yn helpu’ch plentyn i ddysgu sut i ofalu am ddillad, yn ogystal â’r amgylchedd.

Mae rhai teuluoedd yn rhannu dillad ysgol ymysg brodyr, chwiorydd, cefndryd, neu ffrindiau drwy eu pasio ymlaen. Mae’n ffordd wych o gael dillad o ansawdd da am ddim neu am fawr ddim arian. Mae llawer o deuluoedd yn gwneud hyn. Mae’n golygu gwneud y gorau o’r hyn sydd gennych chi eisoes.

Gwell i’r blaned

Oeddech chi’n gwybod bod dros 1 miliwn o wisgoedd ysgol yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU? Mae hynny’n golygu bod cannoedd o dunelli o ddillad y gellir eu defnyddio yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Yng Nghymru yn unig, mae tua 40,000 o wisgoedd ysgol yn cael eu taflu bob blwyddyn!

Mae hynny’n llawer o wastraff a gellir ailddefnyddio’r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Pan fyddwn ni’n dewis gwisgoedd ail-law mewn cyflwr da, rydyn ni’n helpu i atal gwastraff a diogelu’r blaned. Mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ymfalchio ynddo.

Ble i gael dillad ail-law mewn cyflwr da

Mae llawer o ysgolion, Cymdeithasau Rhieni Athrawon, banciau bwyd, siopau elusen a grwpiau lleol yn cynnal digwyddiadau cyfnewid gwisgoedd ysgol am ddim neu am y nesaf peth i ddim. Mae gan rai rheiliau o ddillad y gallwch chi helpu’ch hun iddyn nhw, ac mae eraill yn eu gwerthu am £1 neu £2 yr eitem.

Nid dim ond gwisgoedd ysgol sydd yn y lleoedd hyn, efallai y gallwch chi ddod o hyd i esgidiau ysgol, cotiau, hetiau a bagiau hefyd.

Gofynnwch i rieni eraill, aelodau o’r gymuned neu bobl allweddol sy’n gysylltiedig ag ysgol eich plentyn am wybodaeth am ble y gallwch chi gael yr eitemau ail-law hynny sydd mewn cyflwr da.

Mae RhCT Gyda’n Gilydd wedi darparu rhestr o leoedd y maen nhw’n ymwybodol ohonyn nhw yn RhCT, lle gallwch gael gafael ar eitemau gwisg ysgol ail-law ac sydd mewn cyflwr da:

Os ydych chi’n ymwybodol o grwpiau cymunedol neu ysgolion sy’n cymryd rhan, rhowch wybod i ni.

Pasio mlaen dillad diangen

Os yw gwisg eich plentyn yn dal mewn cyflwr da ond ddim yn ffitio mwyach, beth am ei basio mlaen? Gallwch ei roi i ddigwyddiad cyfnewid yn eich ysgol, siop elusen, neu deulu arall. Drwy wneud hyn, rydych chi’n helpu rhywun arall ac yn cadw’r wisg allan o safleoedd tirlenwi.

Os nad ydych chi’n cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid neu roi, mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi helpu o hyd. Edrychwch a yw’ch ysgol yn cymryd rhan yn her ailgylchu gwisgoedd ysgol CBSRhCT a helpwch eich ysgol i ddod yn hyrwyddwr. Siaradwch â’ch ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

Camau bach, gwahaniaeth mawr

Pan fyddwch chi’n dewis gwisgoedd ail-law mewn cyflwr da, rydych chi’n gwneud rhywbeth call, caredig a gwyrdd. Rydych chi’n helpu eich teulu i wario llai, rydych chi’n amddiffyn y blaned, ac rydych chi’n cefnogi’ch cymuned.

Felly pan fyddwch chi’n paratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, rhowch gynnig ar hyn:

  • Edrychwch i weld beth sydd gennych chi eisoes
  • Gofynnwch i ffrindiau neu deulu
  • Cadwch lygad am ddigwyddiadau cyfnewid mewn ysgolion neu grwpiau lleol
  • Pasiwch mlaen yr eitemau hynny sydd wedi mynd yn rhy fach

Gyda’n gilydd, gallwn wneud i wisgoedd ysgol fynd ymhellach, arbed arian a helpu’r blaned.