Fy Trivallis i

Gweithredu cyflym yn helpu i stopio tipio anghyfreithlon yn Fernhill

20 February 2026

Diolch i waith cyflym ein tîm Ystadau a Thai Cymunedol Cynon, mae’r broblem tipio anghyfreithlon ddiweddar yn Fernhill bellach wedi'i ddatrys.

Sylwodd y tîm ar bentwr mawr o sbwriel ar yr ystad yn ystod ymweliad arferol a threfnodd iddo gael ei glirio ar unwaith. Yn anffodus, ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ymddangosodd ail bentwr yn yr un lle.

Yn benderfynol o fynd at wraidd y broblem, cysylltodd y tîm â’r Swyddog Tai Cymunedol Jess Olsen, a aeth ati’n syth bin i ddarganfod o ble’r oedd y gwastraff wedi dod.

Ar ôl iddyn nhw allu nodi ffynhonnell y tipio anghyfreithlon, bu’r tîm yn gweithio gyda’r Cyngor a gyhoeddodd ddirwy cosb benodedig i’r person cyfrifol. Mae’r ddirwy bellach wedi’i thalu.

Mae’r ymateb cyflym hwn yn golygu bod camau wedi’u cymryd cyn i’r broblem fynd o ddrwg i waeth, ac mae’n anfon neges glir na fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef.

Mae cadw ein hystadau’n lân ac yn ddiogel yn gyfrifoldeb a rannwn, ac mae gwaith caled y tîm wedi helpu i ddiogelu’r ardal i bawb sy’n byw yno. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn atal unrhyw ddigwyddiadau pellach ac yn sicrhau bod Fernhill yn parhau i fod yn lle taclus a chroesawgar i drigolion.

Os byddwch chi’n gweld tipio anghyfreithlon yn eich ardal chi, rhowch wybod amdano cyn gynted â phosibl fel y gallwn ymateb yn gyflym.