Fy Trivallis i

Gweithred fach o garedigrwydd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr y Nadolig hwn

22 December 2025

Ar ôl clywed y byddai nifer fach o’i thenantiaid oedrannus yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain, roedd y…

Ar ôl clywed y byddai nifer fach o’i thenantiaid oedrannus yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain, roedd y Swyddog Tai Cymunedol Ruth eisiau gwneud rhywbeth i ddod â gwên ar eu hwynebau.

Ar ei liwt ei hun, cysylltodd Ruth â nifer o griwiau gwau lleol, gyda’r mwyafrif o’r rhoddion yn dod gan grŵp o’r enw Knitting Nannas. Gyda’i gilydd, rhoddwyd blancedi wedi’u gwneud â llaw a menig wedi’u gwau i’w rhoi fel pecynnau gofal Nadolig.

Mae wyth pecyn gofal i gyd, gyda thri eisoes wedi’u dyrannu i’w thenantiaid ei hun. Mae’r pecynnau sy’n weddill ar gael i rhannu gyda thenantiaid oedrannus a allai hefyd fod yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain. Mae Ruth hyd yn oed wedi lapio’r anrhegion yn barod i’w rhoi.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y Knitting Nannas, am fod mor feddylgar a chyfleu ysbryd y Nadolig go iawn.