Fy Trivallis i

Gweithio gyda’n gilydd i wneud Fflatiau Glanfelin yn ystad wych

21 November 2024

Ddydd Iau 14 Tachwedd, daeth timau o Trivallis a Thîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf at ei gilydd i lanhau'r ardal o amgylch Fflatiau Glanfelin yn y Ddraenen Wen.

Ddydd Iau 14 Tachwedd, daeth timau o Trivallis a Thîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf at ei gilydd i lanhau’r ardal o amgylch Fflatiau Glanfelin yn y Ddraenen Wen.

Trivallis Housing Landlord Wales Two men dressed in work clothes stand outside a building. One man holds a power tool connected to a hose. The building has a sign reading "29-34 Guardian Place." There's a grass lawn and a paved path in front of them.

Aeth Tîm Ystadau Trivallis ati ar unwaith i gael trefn ar ardaloedd a oedd wedi gordyfu, glanhau mannau cymunedol, tacluso sbwriel, a chael sglein ar y rheiliau.

Trivallis Housing Landlord Wales Two men stand outside a building entrance labeled 69-72 with the sign "Glenshiel Place" above the door. One man wears sunglasses and has his arm around the other. They are dressed in work clothes and holding cleaning equipment.

Roedd Eglwys Sant Luc yn ganolog i weithgareddau’r dydd, a throdd yn ganolfan groesawgar i drigolion a thimau. Roedden nhw’n hael iawn tuag at bawb, gan weini bwyd a lluniaeth blasus a roddodd hwb i ymdrechion y dydd. Cafodd pawb hefyd glywed am waith ysbrydoledig eu cegin gawl wythnosol, a gwahoddwyd pawb i ymuno â nhw bob dydd Mawrth i gael pryd o fwyd poeth a chefnogaeth gymunedol.

Trivallis Housing Landlord Wales A person stands behind a table inside a church. The table displays a board with sticky notes, tote bags, a map, and wooden utensils. Church furnishings are seen in the background.

Roedd Lucy, Partner Datblygu Cymunedol Trivallis, wedi’i lleoli yn yr eglwys, ac wedi creu gofod lle gallai preswylwyr ddweud eu dweud, rhannu syniadau,  ac archwilio sut i wneud Fflatiau Glanfelin yn lle gwell nag erioed.

Esboniodd Lucy: “Cefais gyfle i siarad â rhai o’r preswylwyr am ble roedden nhw’n byw a beth roedden nhw’n ei garu am eu hystad. Roedd hefyd yn wych gallu siarad ag aelodau’r eglwys am y pethau gwych maen nhw’n eu gwneud i’r gymuned.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned ac yn gweld sut y gallwn ddod â mwy o grwpiau at ei gilydd i rannu’r pethau anhygoel maen nhw’n eu gwneud er budd trigolion yr ardal.”

Trivallis Housing Landlord Wales Four people stand in front of a white van parked on a residential street. The van has a logo on the door. Two people give thumbs-up gestures. The background shows houses, a tree, and cloudy skies.

Aeth Tîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf o ddrws i ddrws, gan siarad â thrigolion am reoli eu gwastraff.  Roedd yn gyfle iddyn nhw ateb cwestiynau, dosbarthu bagiau ailgylchu, a chodi ymwybyddiaeth, gan roi offer ymarferol i’r gymuned i gadw’r ystad yn lân ac yn drefnus.

Ymunodd y Cynghorydd lleol Cathy Lisles â’r ymdrechion, gan gysylltu â phreswylwyr, aelodau’r eglwys, a staff Trivallis. Meddai: “Roedd hi’n ymdrech tîm gwych gan bawb ar y diwrnod. Roedd yn gyfle i drigolion sgwrsio am yr hyn roedden nhw am ei weld yn eu cymuned a sut y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd i wneud newidiadau cadarnhaol.”

Erbyn diwedd y dydd, roedd pawb wedi dod at ei gilydd i wneud yr ardal yn llawer glanach.

Cofiwch, mae’ch Rheolwr Cymdogaeth, Stacey Tipler, yn eich ardal yn aml ac yn cynnal sesiwn galw heibio ar yr ail ddydd Mawrth o’r mis, 10.30am-12pm yn Eglwys Sant Luc, y Ddraenen Wen.