Fy Trivallis i

Tenantiaid Unedig - gwneud gwahaniaeth

Yn Trivallis, credwn fod eich llais yn bwysig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod pawb yn ei glywed. Dyna beth yw Tenantiaid Unedig: cyfle i chi lywio’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu a helpu i greu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.

Nod y rhaglen hon yw tynnu sylw at yr hyn sy’n bwysig i chi a chyflwyno eich syniadau. Mae’ch profiadau, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i greu newid cadarnhaol.

P’un a oes gennych chi 5 munud y mis, neu 5 awr yr wythnos, dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth yn Trivallis:

  • Cymryd rhan mewn arolygon ar-lein misol
  • Ymuno â chyfarfodydd Zoom misol
  • Gweithredu yn eich cymuned
  • Cwrdd â thenantiaid eraill o ardaloedd eraill
  • Gweithio gyda chyd-aelodau’r gymuned ac uwch aelodau staff i wella atgyweiriadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, gwaith cynnal a chadw ystadau a mwy
  • Bod yn gyfranddaliwr

Mae rhai cyfleoedd lleol gwych ar gael. Rydyn ni newydd gyflwyno ein Cynllun Cyswllt Tenantiaid gyda’r nod o gysylltu â phrosiectau cymunedol a theithiau cerdded yn ein cymdogaethau. Os hoffech chi gymryd rhan, mae ein Tîm Cynnwys yma i helpu, ateb cwestiynau a rhannu mwy o fanylion.

Dewch i sgwrsio!

Ddim yn siŵr beth sy'n addas i chi? Fe wnawn ni eich helpu chi i ddod o hyd i’r ffordd orau i gymryd rhan.